Gwefan cynhyrchu cig oen a chig eidion ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cymwysterau Amaethyddiaeth Lefelau 2 a 3. Yma, cewch ddysgu am wahanol agweddau o’r diwydiant gynhyrchu cig, o faterion rheoli cyllid a busnes i fridiau addas a systemau gwahanol. Ewch ati i bori! Mae'r wefan yn cynnwys saith uned ar gynhyrchu cig eidion: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Eidion y DU Bridiau Gwartheg Cig Eidion System Buchod Sugno a Ffynonellau Gwartheg Stôr Cyflwyniad i Systemau Pesgi Gwartheg Cig Eidion Rheoli Ffrwythlondeb Buches a Buchod Cyfnewid Iechyd a Lles Gwartheg Cig Eidion Ystyriaethau Busnes Wrth Ffermio Cig Eidion a saith uned cynhyrchu cig oen: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Oen y DU Bridiau a’r System Haenedig Dysgu am Ddefaid Blwyddyn y Bugail Y Farchnad Ŵyn Prif Dasgau Hwsmonaeth Defaid Ystyriaethau Busnes Wrth Ffermio Defaid
Fideos Rhannu Arfer Dda – Cynllun Mentora TAR AHO
Wyt ti’n astudio cwrs TAR AHO (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol) ar hyn o bryd, yn siarad Cymraeg, ac yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn dy yrfa? Mae’r fideos hyn i ti! Mae’r gyfres yn cynnwys chwe fideo gan staff sy’n addysgu’n ddwyieithog yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, ac sydd wedi cwblhau’r TAR AHO yn ddiweddar. Mae’n gyfle i chi glywed am eu profiadau ac i gael tips ac arferion da wrth i chi gychwyn eich gyrfa yn y sector.
Llond Ceg - Bwyd Cymreig Cynaliadwy
Mae Llond Ceg yn cynnig adnodd hyblyg a hygyrch i unrhyw un sy'n dymuno deall a dysgu mwy am gynaliadwyedd. Mae’r wefan wedi ei chreu er mwyn cael ei defnyddio mewn ffordd hyblyg ar gyfer cychwyn sgyrsiau am fwyd Cymreig, am drefniant presennol y system fwyd, am wastraff bwyd ac yn fwyaf pwysig am sut mae nifer fawr o ffermwyr Cymru yn ceisio cynhyrchu bwyd drwy ddulliau cynaliadwy. Mae'r cynnwys yn cyflwyno a thrafod 10 rheswm pam fod bwyd lleol Cymreig yn fwy cynaliadwy o’i gymharu â bwyd a gynhyrchir dramor. Ceir hefyd cyfres o 3 podlediad sy'n cyflwyno gwahanol agweddau o'r gadwyn fwyd Cymreig. Mae'r adnodd yn addas ar gyfer y cyhoedd, grwpiau BACC ôl 16 a dysgwyr lefel gradd.
Cynhyrchu cnydau yng Nghymru
Mae'r adnodd hwn yn edrych ar gynhyrchu cnydau yng Nghymru. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr mewn addysg bellach ac uwch sy’n astudio rhaglenni o lefelau 2 i 6. Mae yna wyth uned, pob un yn cynnwys gwybodaeth am wahanol agweddau ar gynhyrchu cnydau. Mae'r rhain yn cynnwys agweddau ar drin, sefydlu, tyfu, gwrteithio, gwarchod, cynaeafu a storio cnydau. Mae'r adnodd yn cynnwys yr unedau canlynol: Cyflwyniad i gynhyrchu cnydau yng Nghymru Trin y tir Sefydlu cnwd Tyfiant a datblygiad cnydau Teilo cnwd Diogelu cnydau Cynaefu cnwd Storio cnydau Mae'r adnodd hwn wedi'i lwyfannu a'i gyhoeddi ar wefan HWB Llywodraeth Cymru.
Fferm Ddiogel
*Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.* Y profiad VR gorau i unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelwch fferm! Mae Fferm Ddiogel wedi’i dylunio i helpu dysgwyr i nodi a deall peryglon posibl ar y fferm, yn ogystal â dysgu sut i’w hosgoi mewn ffyrdd diogel ac ymarferol. Archwiliwch iard y fferm, lle byddwch yn dysgu am y peryglon sy'n gysylltiedig â lleoliadau amaethyddol ac offer a geir yn gyffredin ar y fferm. Ymwelwch â'n canolfan hyfforddi ATV, lle byddwch yn dysgu am beryglon reidio ATVs. Yn olaf, gallwch gael profiad o weithio gydag anifeiliaid mewn amgylchedd diogel a rheoledig, gan ddysgu am y risgiau sy'n gysylltiedig â thrin da byw. Mae ein ap yn cynnwys pum avatar cyfeillgar, Ceri, Bevan, Jack, Yana, a Geth, a fydd yn eich arwain trwy bob senario, gan roi awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar hyd y ffordd. Byddant yn eich helpu i nodi peryglon, deall y risgiau posibl y maent yn eu hachosi, a sut i osgoi'r risgiau hynny. Perffaith ar gyfer darlithwyr ac aseswyr sydd eisiau addysgu elfennau ymarferol o'r cwricwlwm mewn amgylchedd diogel a rheoledig. Mae sain yr adnodd hwn yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg a Chymraeg. *Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.*
Astudiaethau Ceffylau
Dyma becyn adnoddau HWB i wella gwybodaeth dysgwyr sydd yn dilyn fframwaith cymhwyster Lefel 2 a 3 City & Guilds: Advanced Technical Extended Diploma; cymhwyster BTEC Lefel 2 a 3 estynedig mewn Astudiaethau Ceffylau, yn ogystal â’r cyrsiau dysgu seiliedig ar waith. Mae'r pecyn yn cynnwys yr unedau canlynol: Uned 1: Iechyd a diogelwch yn y diwydiant ceffylau - https://hwb.gov.wales/go/vy8w1k Uned 2: Arwyddion o iechyd ac afiechyd mewn ceffylau - https://hwb.gov.wales/go/new29t Uned 3: Cymorth cyntaf wrth ofalu am geffylau - https://hwb.gov.wales/go/e16m3f Uned 4: Cyfarpar i geffylau a marchogion - https://hwb.gov.wales/go/vhelps Uned 5: Maeth i geffylau - https://hwb.gov.wales/go/ruf5d3 Uned 6: Paratoi ceffylau i'w cyflwyno - https://hwb.gov.wales/go/syqlgo Uned 7: Pedoli ceffyl - https://hwb.gov.wales/go/apoh2n
Pecyn Adnoddau Amaethyddiaeth
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys yr unedau isod: Iechyd a Diogelwch mewn Amaethyddiaeth Ffisioleg Anifeiliaid Cynhyrchu Cnydau Systemau Sylweddol a Chydrannau Allweddol y Tractor Crëwyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar sail Deunyddiau Dysgu Amaeth, adnodd a grëwyd yn wreiddiol gan Sgiliaith (2002). Awduron yr adnodd gwreiddiol oedd Lowri Evans, Ian Harries, Mary Richards a Rhys Williams, ac fe’i golygwyd gan Penri James.
Pecyn Cefnogi Tiwtoriaid Addysg Bellach
Cynlluniwyd yr adnoddau hyn i gynorthwyo tiwtoriaid i feithrin eu sgiliau addysgu dwyieithog a chynyddu eu hymwybyddiaeth o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a’r set ddata LA26. Defnyddir y set ddata i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru. Nod yr adnoddau yw rhoi hyder i diwtoriaid yn y ffordd y cofnodir gweithgarwch a gwblhawyd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar y LLWR, a’u helpu i ganfod ble mae eu darpariaeth ar hyn o bryd. Fe’u cynlluniwyd hefyd i roi cyngor ymarferol i diwtoriaid ar sut i symud eu haddysgu i fyny’r continwwm dwyieithrwydd. Mae’r pecyn yn cynnwys: Llawlyfr - dogfen waith y gellir ei defnyddio i gyfeirio ati, yn ogystal ag i sefydlu targedau personol penodol ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg/dwyieithog. Cwrs e-ddysgu ar-lein - Deall Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae’r modiwl dysgu ar-lein rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a sut y caiff ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru. Ap geirfa ddwyieithog Sgiliaith - ‘Ap Adborth Sgiliaith’ - Yn yr ap hwn ceir ystod eang o eiriau ac ymadroddion cyffredinol y gall tiwtoriaid eu defnyddio i roi adborth a phrofiadau Cymraeg/ dwyieithog i ddysgwyr. Mae dolenni i'r adnoddau ar gael isod ac maent hefyd ar gael ar wefan Sgiliaith sgiliaith@gllm.ac.uk
Dyfrffyrdd a Bywyd Gwyllt: Rheoli ein hamgylchedd naturiol
Adnodd ar wefan Hwb ar gyfer gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn rheolaeth amgylcheddol yw hwn. Gan ddefnyddio erthyglau nodwedd a gwybodaeth allweddol am gamlesi Cymru a thu hwnt, mae’r llawlyfr hwn yn gyflwyniad i gynefinoedd a bywyd gwyllt glan dŵr.
Peiriannau Fferm
Mae’r adnodd hwn, o wefan Hwb, yn addas ar gyfer dysgwyr ôl 16 Amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofalu am anifeiliaid, yn amlygu pwysigrwydd deddfwriaeth peiriannau ar y fferm. Mae’n dangos egwyddorion gweithio a pharatoi peiriannau, yn edrych ar eu heffaith amgylcheddol, ac yn rhoi enghreifftiau o ddulliau o ofalu am beiriannau ar ôl gweithio gyda nhw fel nad ydyn nhw’n dirywio.
Gwyddor Anifeiliaid
Mae’r adnodd hwn o wefan Hwb, yn addas ar gyfer dysgwyr Amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofalu am anifeiliaid, yn dangos strwythur a swyddogaethau organau anifeiliaid fferm. Mae’n amlygu pwysigrwydd eu systemau biolegol a’r gwahanol ddulliau bridio a thechnolegau atgenhedlu ar y fferm.
Echelgais
Adnodd cyfrwng Cymraeg ar wefan HWB sy'n canolbwyntio ar 6 maes; Amaethyddiaeth, Busnes, Drama, Twristiaeth a Hamdden, Iechyd a Gofal a Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfryngau.