Ychwanegwyd: 25/10/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 966

Am Blant - podlediad

Disgrifiad

Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc

Podlediad #1: Beth yw Plentyndod?
Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn.

Podlediad #2: Beth yw ieuenctid?
Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid?
Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw?

Podlediad #3: Beth sydd ei angen ar blentyn...?
Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu?
Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da?

Podlediad #4: Hawliau Plant
Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc.
Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19?

Podlediad #5: Llais Rhieni
A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr?
I gael gwybod mwy gwrandewch ar Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Siôn Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn.

Podlediad #6: Beth ydy chwarae?
Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae?
Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae.

Podlediad #7: Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?
Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Gwaith Ieuenctid, Addysg, Gofal Plant
Trwydded
Parth Cyhoeddus
Adnodd Coleg Cymraeg Casgliad
mân lun am blant

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.