Ychwanegwyd: 23/08/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 599 Dwyieithog

Byd Rhithiol Gwrth-Hiliaeth Llywodraeth Cymru

Disgrifiad

Ar y cyd â mXreality, ac wrth weithio â thimau sy’n arbenigo yn y pwnc o Goleg Caerdydd a’r Fro, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu amgylchedd metafyd 3D trochol, hygyrch ac eang, sy’n cynnwys pum ardal yn ymwneud â gwahanol themâu. Maent yn edrych ymlaen at rannu profiadau, straeon a hanesion gyda chi. Gwahoddir chi i ymgysylltu â phrofiad dysgu trochol, a fydd yn gwella eich dealltwriaeth o’r byd. Wrth ichi archwilio’r byd hwn, gofynnir ichi ymgysylltu â’r adnoddau a myfyrio ar eu harwyddocâd. Dyma gyfle i chi ddysgu am y diwylliannau a’r traddodiadau sy’n ffurfio rhan o’n cyd-hunaniaeth.

Mae'r Metafyd yn cynnwys yr ardaloedd canlynol:

  • Profiadau
    • Mae’r Metafyd Profiadau wedi’i leoli ar stryd o dai pâr cynrychiadol yng Nghymru, gyda mynediad at chwe thŷ (tri ar bob ochr o’r stryd). Ym mhob un o’r tai, gallwch ddysgu mwy am gefndir a diddordebau’r unigolion sy’n byw yno drwy wylio’r fideo sy’n chwarae ar y teledu a thrwy glicio ar rai o’r eitemau rhyngweithiol (a nodwyd gan eicon tri smotyn) yn yr ystafell fyw.
  • Astudiaethau Trochol
    • Mae’r Metafyd Astudiaethau Trochol yn cynnwys prif ardal lefel is a thair ardal lefel uwch. Mae gan y brif ardal amrywiaeth o eitemau o ddiddordeb geometregol oherwydd eu siapiau a’u patrymau, sy’n dangos y cysylltiad rhwng mathemateg, gwyddoniaeth a natur. Gallwch ddysgu mwy am yr eitemau hyn drwy glicio arnynt. Mae Cod QR i’w weld ar banel ger rhai eitemau hefyd, y gellir ei sganio gyda chamera eich ffôn symudol er mwyn gweld fersiwn 3D neu Realiti Estynedig (AR) o’r eitem ar eich dyfais.

      Mae’r lefel uwch yn cynnwys:

      • ystafell Mathemateg – yn galluogi ymwelwyr i archwilio pwysigrwydd a hanes rhifau a siapiau mathemategol a geometregol
      • Ystafell Gwallt a Harddwch – yn galluogi ymwelwyr i ymgyfarwyddo â hanes a gwreiddiau gwallt a harddwch
      • Ystafell Dyfeisiadau – yn addysgu ymwelwyr am rai dyfeisiadau arwyddocaol a chyfraniadau cynnar i fywyd cyfoes
  • Llinell Amser y Byd
    • Mae Metafyd Llinell Amser y Byd yn cynnwys prif ardal ganolog a phedwar rhanbarth daearyddol, a gallwch gael mynediad at bob un ohonynt drwy dwnnel o’r ardal ganolog. Mae pob twnnel yn arddangos gwybodaeth sy’n cyflwyno cefndir, hunaniaeth a delwedd unigolyn cynrychiadol o’r rhanbarth hwnnw. Mae pob un o’r pedwar rhanbarth (y manylir arnynt isod), yn cynnwys pedwar cyfnod amser, sy’n galluogi ymwelwyr i brofi pensaernïaeth, delweddau a gwybodaeth gynrychiadol mewn perthynas â’r oes hynafol, yr oesoedd canol, y cyfnod modern cynnar, a’r byd heddiw.

      Y pedwar rhanbarth sydd ar gael yn y Metafyd hwn yw:
      Affrica, Is-gyfandir India, Y Dwyrain Canol a Gogledd Ewrop.

      Wrth ichi symud o gwmpas llinell amser y byd, yn yr ardal ganolog ac ym mhob un o’r rhanbarthau, mae eitemau rhyngweithiol y gallwch glicio arnynt yn cysylltu â fideos sy’n cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ddefnyddiol. Mae Codau QR ar gael yn rhai o’r rhanbarthau hefyd, y gellir eu sganio gyda chamera eich ffôn symudol er mwyn gweld fersiwn 3D neu Realiti Estynedig (AR) o’r eitem ar eich dyfais.

  • Y Cwricwlwm

    • Mae'r adran hon yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bynciau y saeniwyd yn ofalus er mwyn sichrau y bydd eu cynllun yn wrth-hiliol. Mae'r adran yn cynnwys y pynciau canlynol:

      • Cymdeithaseg

      • Gwallt a Harddwch

      • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

      • Ffeministiaeth Ddu

      • Gwleidyddiaeth

      • Mathemateg

      • Astudiaethau Ffilm

      • Athroniaeth Affricanaidd

      • Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill

      • Addysg Sylfaenol i Oedolion

      • Anghenion Dysgu Ychwanegol

      • Sesiwn tiwtorial

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Mathemateg, Athroniaeth, Gwleidyddiaeth, Trawsddisgyblaethol, Astudiaethau Ffilm, Teledu a Chyfryngau, Iechyd a Gofal
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Casgliad
mân-lun metafyd gwrth-hiliaeth

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.