Ychwanegwyd: 29/04/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 2.5K Cymraeg Yn Unig

Cynhadledd Ymchwil 2022

Disgrifiad

Cynhaliwyd y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni, gyda chynulleidfa mewn person yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledwyd yn fyw i gynulleidfa rithiol.

Mae Cynhadledd Ymchwil flynyddol y Coleg ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i drafod gydag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.

Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Mae’r gynhadledd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.

Cliciwch isod i weld cyflwyniadau byrion a recordiwyd yn arbennig ar gyfer y gynhadledd. Mae hefyd dolenni i weld y posteri ymchwil a arddangoswyd yn ystod y gynhadledd.

Bydd recordiadau o'r prif gyflwyniadau a roddwyd yn fyw yn ystod y gynhadledd, a’r sesiynau cwestiwn ac ateb a gafwyd ar ôl pob cyflwyniad yn cael eu hychwanegu isod yn fuan.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Trawsddisgyblaethol, Rhaglen Sgiliau Ymchwil
Trwydded
Parth Cyhoeddus
Adnodd Coleg Cymraeg Cynhadledd
cynhadledd ymchwil 30 mehefin 2022

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.