Mae Dr Hanna Hopwood yn ddarlithydd yn Adran Ieithyddiaeth, Prifysgol Rhydychen. Mae hi hefyd yn rheolydd prosiectau ac ar fin cwblhau'r ILM Lefel 7 mewn coetsio a mentora gweithredol. At hyn, mae hi wedi dilyn sawl cwrs ar Therapi Tosturi (Compassion Focused Therapy) ac yn plethu'r modelau o'r ddysgeidiaeth honno ar bob cyfle posib i'w gwaith bob dydd.
Mae’r cyflwyniad hwn yn dy annog i ystyried:
- Pa fath o ddysgwr wyt ti?
- Beth sydd yn mynd i dy helpu yn bersonol wrth osod dy nodau ac amcanion ymchwilio?
- Pa fath o awyrgylch a phatrwm astudio sy’n gweithio i ti?
- Beth sy’n medru helpu gosod arferion da?
- Sut y galli di strwythuro dy amser yn effeithiol?
- Pa strategaethau sy’n medru gweithio wrth osod nodau ac amcanion?
- Sut y galli di wneud y gorau o dy amser a dy egni?
I gyd-fynd â’r adnodd hwn, cynhelir gweithdy byw ar-lein Gosod Nodau ac Amcanion ar gyfer Ymchwilwyr gyda Dr Hanna Hopwood ar 20 Mai am 11:00 i fynd yn ddyfnach i’r cwestiynau uchod a chael cyfle i rannu arferion da a chynghorion pellach.