Ychwanegwyd: 11/02/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.9K Cymraeg Yn Unig

Gwyl Celf ar y Map 2021 (Mawrth 2021)

Disgrifiad

MAP - Myfyrwyr, Arloesi, Perfformio

Gŵyl rithiol i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg. Nod ‘Gŵyl Celf a Dylunio ar y MAP’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg i ddod ynghyd mewn un man i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa ar brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant. Eleni am y tro cyntaf cynhaliwyd Gŵyl Celf a Dylunio ar y Map mewn tair sesiwn ar-lein yn ystod mis Mawrth.

  • Wythnos 1: Cyflwyniadau a theithiau rhithiol o gwmpas Amgueddfeydd Cymru.
  • Wythnos 2: Cyflwyniadau gan yr artistiaid Cefyn Burgess a Valériane Leblond
  • Wythnos 3: Cyflwyniadau gan Gareth TW Rees ac Eddie Ladd

Roedd cyfle i fynychwyr ymateb i'r cyflwyniadau amrywiol drwy ddilyn briff wythnosol a rhannu eu gwaith ar Instagram gan ddefnyddio'r hashnodau canlynol:

Wythnos 1: #datblyguMAP21 #cadMAP21

Wythnos 2#datganMAP21 #cadMAP21

Wythnos 3#creuMAP21 #cadMAP21

Cliciwch isod i weld recordiadau o'r sesiynau arbennig.

 

 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Celf a Dylunio
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Cynhadledd
man lun gwyl celf ar y map

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.