Ychwanegwyd: 22/03/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.4K Dwyieithog

Posteri Geirfa Dwyieithog Gwasanaethau Cyhoeddus

Disgrifiad

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys cyfres o bosteri sy'n cynnwys geirfa allweddol ddwyieithog gyffredinol i fyfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus. Datblygwyd y gyfres hon o bosteri gan Coleg Sir Gâr. Mae'r gyfres yn cynnwys 9 pdf y gellir eu lawr lwytho a'u hargraffu i gefnogi cyflwyno'r Gymraeg yn y maes gwasanaethau cyhoeddus. Gall y posteri gael eu rhoi ar wal y dosbarth. 

 

Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cyfres o bosteri sy’n cynnwys geirfa allweddol benodol ar gyfer unedau Cwrs Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol. Mae poster geirfa allweddol ar gael ar gyfer y 7 uned sef:  

Uned 1: Dinasyddiaeth ac Amrywiaeth 

Uned 2: Ymddygiad a Disgyblaeth yn y Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol 

Uned 3: Materion Byd-eang, y Cyfryngau a’r Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol 

Uned 4: Paratoad Corfforol, Iechyd a Llesiant 

Uned 5: Gwaith Tîm, Arweinyddiaeth a Chyfathrebu yn y Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol 

Uned 6: Y Llywodraeth a’r Gwasanaethau Amddiffyn 

Uned 7: Cynllunio ar gyfer Digwyddiadau Brys ac Ymateb iddynt 

 

Noder bod fersiynau hygyrch Word ar gael ar gyfer y ddau adnodd ar wahân. 

 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Gwasanaethau Cyhoeddus, Defnyddio'r Gymraeg yn eich Dysgu
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Casgliad
man lun posteri gwasanaethau cyhoeddus

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.