Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: - 951

Y Rhwyg (1988)

Disgrifiad

Saith deg o flynyddoedd yn ôl daeth y Rhyfel Mawr i ben [Tachwedd 1988]. Ar ddiwrnod y dwys gofio led-led Ewrop, mae'n addas ail-ystyried effaith y brwydro ar ein gwlad ein hunain. Dangosir bod canlyniadau rhyfel 1914-1918 gyda ni o hyd, a bod 'y rhwyg o golli'r hogiau' yn dal i glwyfo ein cymdeithas hyd heddiw. John Davies sy'n cyflwyno'r rhaglen ac yn ystyried y newidiad mawr ddaeth i'r golwg yn sgil y Rhyfel Mawr. Mae Davies o'r farn fod chwyldro wedi digwydd o sawl cyfeiriad: chwyldro cymdeithasol, rhywiol a economaidd. Mae'n cyfeirio at y Rhwyg nid yn unig yn nhermau colli bywyd ond, yn ogystal, y Rhwyg rhwng yr hen Gymru a'r Gymru newydd... Mae'r rhaglen yn cynnwys llenyddiaeth a chyfraniadau gan Lady Ceri Olwen Evans (merch David Lloyd George) ac Ithal Davies. Teliesyn, 1988.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Hanes
Trwydded
ERA
Archif S4C
Password Protected
mân-lun Archif S4C

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.