Gweithgareddau a sesiynau amrywiol ar-lein ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 sy’n astudio Cymraeg Ail Iaith.
Ymunwch â ni'n rhithiol fel dosbarth brynhawn dydd Iau, 8 Gorffennaf rhwng 12.45 - 3pm.
Sesiynau'n cynnwys:
- Cwis creadigol yng nghwmni'r bardd Aneirin Karadog: Cwis creadigol lle does dim ateb cywir nac anghywir, dim ond yr ateb sy’n plesio’r beirniad, sef Aneirin! Cyfle i weithio fel timau ar dasgau sy’n herio eich gallu i odli, cymharu a disgleirio gyda chreadigrwydd yn eich iaith!
- Sesiwn Holi Byw yn Gymraeg yng nghwmni tri o bobl ifanc sy'n defnyddio'r iaith bob dydd mewn amrywiol ffyrdd - Bronwen Lewis, Nick Yeo a Francesca Sciarrillo
- Cân neu ddwy gan Bronwen Lewis, y gantores a'r gyfansoddwraig dalentog sydd wedi bod yn defnyddio llwyfan TikTok i rannu cyfieithiadau Cymraeg o ganeuon enwog dros y misoedd diwethaf
- Cyfle i baratoi ar gyfer Blwyddyn 13 mewn sesiwn ysgafn gan Dr Angharad Naylor, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
- Cyflwyniad byr i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae dolen i'r ffurflen gofrestru isod. Am fwy o wybodaeth neu unrhyw ymholiad, cysylltwch â Ffion, Swyddog Hyrwyddo'r Gymraeg fel Pwnc y Coleg: ff.owen@colegcymraeg.ac.uk