Mae ymchwil ynghylch caffael cenedl ramadegol wedi dangos, mewn nifer o ieithoedd, fod plant yn cael meistrolaeth ar genedl yn gynnar. Yn aml, yn yr ieithoedd hyn, mae marcio cenedl yn eithaf amlwg ac mae'n cynnig cyfatebiaeth un-i-un glir rhwng marciwr a'r genedl a godiwyd. Yn y Gymraeg, fodd bynnag, mae marcio cenedl yn fwy cymhleth. Mae'n cael ei marcio drwy dreigladau, sef cyfres o newidiadau morffo- ffonolegol sy'n effeithio ar gytseiniaid cyntaf geiriau, ac mae'r mapio rhwng treiglad a chenedl yn eithaf anhryloyw. Defnyddir dau fath o dreiglad i farcio cenedl fenywaidd: mae enwau benywaidd yn cael eu newid gan y fannod benodol ac mae ansoddeiriau sy'n dilyn enwau benywaidd yn cael eu treiglo'n feddal, ac mae cenedl fenywaidd yr ansoddair meddiannol 'ei' yn cael ei marcio drwy dreiglo'r enw a newidir yn llaes. Mae'r papur hwn yn cyflwyno dwy astudiaeth sy'n archwilio meistrolaeth gynhyrchiol plant ac oedolion ar genedl fel y'i mynegir drwy dreiglo enwau a newidir gan y fannod benodol, ac ansoddeiriau yn newid enwau. Gwahoddwyd plant, rhwng 4½ a 9 oed, ac oedolion i gymryd rhan yn yr astudiaethau. Yn gyntaf, cynhaliwyd astudiaeth led-naturiolaidd i gael gwybodaeth am ddefnydd y siaradwyr o farcio cenedl. Yna, defnyddiwyd gweithdrefn Cloze i gymell y siaradwyr i greu ffurfiau gwrywaidd a benywaidd, gyda geiriau go iawn a ffurfiau disynnwyr, mewn amrywiaeth o gyd-destunau ieithyddol. Roedd rhai o'r cyd-destunau hyn yn rhoi awgrym o statws cenedl, ond nid oedd rhai eraill. Roedd y data a gafwyd yn dangos bod caffael y system genedl Gymraeg yn broses hirfaith, ac nad yw plant wedi meistroli'r system hyd yn oed erbyn 9 oed. Mae siaradwyr Cymraeg, hyd yn oed pan maent yn oedolion, yn rhoi ychydig o sylw, neu ddim, i'r awgrymiadau posibl sy'n bresennol yn y mewnbwn. Mae'r canlyniadau yn awgrymu, pan fo gan iaith system genedl gymhleth sydd wedi'i marcio gan brosesau morffo-ffonolegol anhryloyw, fod y cwrs datblygu yn faith ac yn amrywiol. Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 53-81.
Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg' (2007)
Hanna Binks ac Enlli Thomas, 'Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o'r system o greu enwau ...
Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio rôl ansawdd ac amlder amlygiad i fewnbwn ieithyddol (h.y. i ba raddau yr amlygir unigolion i iaith o wahanol ffynonellau yn ystod eu bywydau) ar gaffaeliad oedolion dwyieithog Cymraeg-Saesneg o'r system o greu enwau lluosog Cymraeg. Dangosodd ymchwil flaenorol y ceir gwahaniaethau rhwng plant dwyieithog o gefndiroedd iaith gwahanol. Er ei fod yn bosibl lleihau'r gwahaniaeth wrth iddynt gael eu hamlygu fwyfwy i'r iaith honno, mae cwestiwn ynghylch pa mor gyflym y gellir cael llai o wahaniaethau (os o gwbl) pan fo strwythurau iaith yn gymhleth, yn enwedig os defnyddir y system yn anghyson ymysg gwahanol oedolion. Fodd bynnag, mae i ba raddau y mae'r gwahaniaethau hyn yn diflannu yn ansicr, gan nad oes ymchwil wedi'i chynnal ymysg unigolion dros 11 oed. Felly nod yr astudiaeth oedd asesu gallu oedolion Cymraeg-Saesneg o wahanol gefndiroedd dwyieithog i greu ffurfiau lluosog o enwau Cymraeg er mwyn olrhain i ba raddau y gwelwyd lleihad yn y gwahaniaethau rhwng plant dros amser. Hanna Binks ac Enlli Thomas, 'Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o'r system o greu enwau lluosog yn y Gymraeg', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 31–46.
Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad' (2014)
Mae deugain mlynedd o waith ymchwil wedi nodi sawl un o'r prosesau seicolegol sy'n sail i'r gallu i ddarllen. Serch hynny, tan yn ddiweddar, bu seiliau gwybyddol (cognitive) rhuglder darllen yn gymharol anhysbys. Yn yr adolygiad hwn, rhoddir disgrifiad o ruglder darllen fel ffenomen wybyddol a niwrofiolegol, gan gynnwys y gwaith ymchwil a wnaed i ddeall y broses hon. Mae fy ngwaith i a'm cyd-weithwyr yn canolbwyntio ar y maes hwn, ac amlinellaf ein prif ganfyddiadau hyd yma. Deuir â'r gwaith i'w derfyn drwy amlinellu goblygiadau'r gwaith mewn perthynas â deall rhuglder darllen yn achos oedolion medrus ynghyd â'r rhai sydd â'r cyflwr dyslecsia. Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad', Gwerddon, 18, Medi 2014, 41-54.
Osian Elias a Gwenno Griffith, '"Mae hergwd cyn bwysiced â hawl": newid ymddygiad a pholisi’r iaith Gymraeg' (...
Mae ymagwedd ymddygiadol at bolisi eisoes wedi trawsnewid ystod o feysydd polisi cyhoeddus. Diben yr erthygl hon yw datblygu’r berthynas rhwng ymagwedd ymddygiadol a pholisi a chynllunio iaith. Cynigia strategaethau iaith diweddar Llywodraeth Cymru dystiolaeth o’r berthynas eginol hon, ac mae’r uchelgais o filiwn o siaradwyr yn cynnig sbardun polisi amlwg i’r defnydd o fewnwelediadau ymddygiadol ac yn cyfrannu at arloesi ym maes polisi iaith. Esbonia’r erthygl fod y ddealltwriaeth o ymddygiad sydd wrth wraidd ymdrechion polisi’r iaith Gymraeg yn tueddu i bwysleisio nodweddion rhesymol ymddygiad. Dadleuir bod hyn yn esgeuluso dealltwriaethau amgen o ymddygiad ac arfau polisi megis yr hergwd.
Rôl ataliad mewn dwyieithrwydd
Mae'r prosiect yma yn anelu at edrych ar sut mae pobl ddwyieithog (sy'n rhugl neu yn datblygu eu Cymraeg) yn cael gafael ar ac yn defnyddio pob un o'u hieithoedd. Ar ben hynny, bydd yn edrych ar y rhyngweithio rhwng y ddwy iaith ac, yn benodol, sut mae cael ail iaith (Cymraeg) yn dylanwadu ar berfformiad yn eu hiaith gyntaf (Saesneg). Mae hyn yn bwysig nid yn unig achos bydd yn rhoi mewnwelediad i rôl ataliad mewn prosesu iaith ddwyieithog, ond bydd hefyd yn taflu golau ar sut mae siaradwyr Cymraeg yn dysgu'r iaith ac integreiddio i mewn i'r geiriadur meddwl mewnol, a allai, yn ei dro, yn arwain at strategaethau addysgol a all gynyddu effeithlonrwydd dysgu Cymraeg fel ail iaith. Yr astudiaeth hon yw'r cyntaf i archwilio rôl ataliad mewn pobl ddwyieithog Cymraeg/Saesneg a'r rhai sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith a disgwylir iddo fod yr astudiaeth gyntaf mewn rhaglen ymchwil barhaus. Ariannwyd y gwaith gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg
Holiadur Pryder Perfformiad
Crewyd yr adnodd hwn er mwyn darparu cefnogaeth seicoleg chwaraeon cyfrwng Cymraeg i athletwyr sy'n siarad Cymraeg. Y nod yw deall yr ymateb pryder perfformiad yn llawn.