Mae iechyd meddwl gwael a diffyg lles yn broblem ddigynsail ymhlith plant heddiw. Cynigia Seligman (2011) y dylid gofalu am les a hapusrwydd drwy ddulliau seicoleg bositif. Mae asesiad PERMA (Positive emotion, Engagement, Relationships, Meaning, Accomplishments/Achievements) (Butler a Kern 2015) yn gofyn i unigolion hunanasesu i ba raddau y maent yn ‘ffynnu’. Bwriad y prosiect peilot hwn oedd asesu gwerth y proffiliwr-PERMA fel teclyn i adnabod agweddau ar iechyd meddwl a lles cyffredinol disgyblion blwyddyn 7 mewn tair ysgol uwchradd. Yn dilyn yr holiadur cyntaf, cynigwyd ystod o strategaethau dylunio cyffredinol i athrawon eu defnyddio cyn asesu eto ar ddiwedd y tymor. Awgryma’r canlyniadau werth teclyn hunanasesu i nodi lefelau cyffredinol iechyd meddwl a lles disgyblion ac i nodi’r unigolion hefyd sydd yn debygol o brofi anawsterau dwys yn ddiweddarach.
Gwerthuso’r proffiliwr-PERMA i nodi a chefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion wrth bontio i’r ysgol uwchradd
Credoau am werth cynhenid a pherthynol byd natur: sut maent yn cydberthyn ag ymddygiad cynaliadwy yn y Deyrnas...
Mae negeseuon cyhoeddus yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i annog ymddygiad cynaliadwy (h.y. ymddygiad o blaid yr amgylchedd), gan gynnwys pwysleisio gwerth cynhenid natur (gwerth natur y tu hwnt i’w defnyddioldeb i bobl) a gwerth perthynol natur (gwerth perthynas pobl â natur). Yn yr astudiaeth hon, rydym yn cyflwyno canlyniadau arolwg o oedolion yn y Deyrnas Unedig (n = 499) a gwblhaodd holiaduron a oedd yn adlewyrchu gwerth cynhenid natur (credoau gwerth cynhenid a gwerthoedd biosfferig) a dau a oedd yn adlewyrchu gwerth perthynol natur (cysylltedd â natur ac empathi tuag at natur). Adroddodd y sampl eu bod yn cyflawni ymddygiad cost isel yn aml iawn (e.e. cymryd cawodydd byr), ymddygiad treuliant (consumption behaviour) yn llai aml (e.e. prynu cynnyrch gyda llai o ddeunydd pecynnu), ac ymddygiad ymrwymedig yn anaml iawn (e.e. cymryd rhan mewn gwaith cadwraeth). Nid oedd unrhyw newidyn yn darogan ymddygiadau cost isel. Canfuwyd bod gwerthoedd biosfferig a chysylltedd â natur yn darogan ymddygiadau treuliant. Dim ond y credoau gwerth perthynol (cysylltedd ac empathi) a oedd yn darogan ymddygiad ymrwymedig. Mae goblygiadau i’r canlyniadau ar gyfer cyflwyno negeseuon amgylcheddol o safbwynt gwerth cynhenid a pherthynol natur. Gwneir argymhellion ar gyfer gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn.
Panel Trafod: Hedd Wyn
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y ffilm arobryn, Hedd Wyn, a sgriptiwyd gan Alan Llwyd ac a gyfarwyddwyd gan Paul Turner. Yn ystod y sesiwn, geir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ffilm gan gynnwys y cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, y themâu yr ymdrinnir â hwy, y portread o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt yn ogystal â’r defnydd o symbolaethau o fewn y ffilm. Ystyrir hefyd bwysigrwydd a chyfraniad y ffilm o fewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams a'r Athro Gerwyn Wiliams, Prifysgol Bangor, yr actor Huw Garmon a Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth yr Ysgwrn. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ffilm ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hanes. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Hedd Wyn? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Stori Fer: Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel? (Adnoddau)
Adnoddau adolygu'r stori fer 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' gan Mihangel Morgan (o'r gyfrol Saith Pechod Marwol), sef un o'r straeon byrion ar fanyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch (U2 Uned 6: Defnyddio Iaith a'r Stori Fer). Adnoddau yn cynnwys: Animeiddiad fideo o'r stori (gyda a heb isdeitlau) Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn trafod y stori 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn sôn am eirfa ac ymadroddion defnyddiol i'w defnyddio wrth drafod y stori fer Adnoddau wedi eu creu gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Panel Trafod: Dod â Siwan yn Fyw
Cyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr ac wynebau cyfarwydd ym myd y ddrama Gymraeg yn trafod y ddrama Siwan gan Saunders Lewis. Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor, Dr Llio Mai, a'r actorion Ffion Dafis a Dyfan Roberts. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ddrama gan gynnwys ei hiaith, ei themâu, ei strwythur a’i chymeriadau gan hefyd ystyried ei chyfraniad o fewn cyd-destun y ddrama Gymraeg. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ddrama ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn drama. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Siwan? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Dwyieithrwydd ar gyfer y gweithle: Sgiliau proffesiynol
Pwrpas yr adnodd hwn yw helpu datblygu hyder i weithio'n ddwyieithog. Twy gyfres o ymarferion bydd cyfle i ymarfer nifer o sgiliau perthnasol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle gan gynnwys: drafftio e-bost paratoi CV gwneud cyflwyniad yn Gymraeg. Datblygwyd yr adnodd hwn gan Goleg Sir Benfro.
Ar-lên 2023: Sesiynau Adolygu UG/Safon Uwch
Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, a llenorion ac academyddion blaenllaw eraill, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.30pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar bnawn Mercher 1 Mawrth 2023. Amserlen: 1 Mawrth 2023: Dan Gadarn Goncrit (Mihangel Morgan), Dr Miriam Elin Jones, Prifysgol Abertawe (Bl.13) 8 Mawrth 2023: Mis Mai a Mis Tachwedd (Dafydd ap Gwilym), Iestyn Tyne (Bl.13) 15 Mawrth 2023: Blasu (Manon Steffan Ros), Dr Manon Wynn Davies (Bl.13) 23 Mawrth 2023: Un Nos Ola Leuad (Caradog Pritchard), Dr Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd (Bl.13) *Dydd Iau* 29 Mawrth 2023: Y Gymraeg mewn cyd-destun, Gruffydd Rhys Davies, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13) 19 Ebrill 2023: 'Aneirin' (Iwan Llwyd), Dr Elis Dafydd, Prifysgol Bangor (Bl.12) 26 Ebrill 2023: 'Preseli' (Waldo Williams), Dr Elan Grug Muse (Bl.12) 3 Mai 2023: Ymarfer Papur Gramadeg, Yr Athro Peredur Lynch, Prifysgol Bangor (Bl.12) Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Astudiaethau Achos Busnes
Mae’r pecynnau hunan astudio yma’n defnyddio astudiaeth achos Cymreig i gyflwyno damcaniaethau busnes i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach. Mae’r pecynnau wedi cael eu hanelu at ddysgwyr ar lefel tri ond gallant fod yn berthnasol i ddysgwyr ar lefelau is ac uwch hefyd. Mae’r adnoddau yn cyflwyno: Nodweddion gwasanaeth cwsmer da Nodweddion busnes mân-werthu Rheoli cadwyn gyflenwi Rheoli digwyddiad Adeiladu tîm mewn busnes Yn ogystal â’r pecynnau, ceir dolen at yr astudiaethau achos ar ffurf fideo ar wahân.
Ap Chwaraeon trwy'r Gymraeg
Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgwyr, prentisiaid a gweithwyr sydd angen cefnogaeth i allu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd proffesiynol sy’n ymwneud â Chwaraeon. Mae'r ap wedi'i rannu mewn i'r unedau canlynol: Geirfa ac ymadroddion cyffredinol Sgwrsio Chwaraeon Y Corff Y System Sgerbydol Cymalau Ffitrwydd Cymorth Cyntaf Hyfforddi
Gwobrau 2023
Mae’r Coleg yn dyfarnu nifer o wobrau i unigolion disglair yn ystod y flwyddyn, unai am waith, cyflawniad neu gyfraniad rhagorol mewn colegau addysg bellach, prifysgolion a phrentisiaethau. Hoffech chi enwebu rhywun/rhywrai sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eich sefydliad? Mae'r Noson Wobrau yn cynnig cyfle gwych i gydnabod eu gwaith a’u cyfraniad. Mae panel o swyddogion y Coleg ac aelodau allanol yn dyfarnu’r gwobrau hyn, a byddant yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr yn Noson Wobrau’r Coleg ym Mehefin 2023. Mae’r cyfle i enwebu unigolion ar gyfer y gwobrau hyn nawr AR AGOR! Gallwch gyflwyno eich enwebiadau gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw hanner dydd, 10 Mawrth 2023. Dyma’r Gwobrau y gallwch enwebu unigolion ar eu cyfer eleni: Gwobrau Addysg Bellach a Phrenisiaethau: Gwobr Cynllun Gwreiddio - Addysgwr Arloesol Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfraniad arbennig Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfoethogi profiad y dysgwr/prentis Gwobr Addysg Bellach William Salesbury Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce Gwobrau Addysg Uwch Gwobr Merêd Gwobr Eilir Hedd Morgan Gwobr Meddygaeth William Salesbury Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Gwobr y myfyrwyr Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Cyfraniad Eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg
Cynhadledd Wyddonol 2023
Bwriad y gynhadledd yw rhoi llwyfan i ymchwil wyddonol flaenllaw gan wyddonwyr Cymraeg. Mae rhoi’r cyfle i wyddonwyr drin a thrafod y Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i’r Coleg ers ei sefydlu ac mae’r gynhadledd yn mynd o nerth i nerth. O ddylunio cyffur newydd i drafod micro-blastig, mae’n gyfle i ni drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y Gwyddorau. Eleni, mi fydd y gynhadledd yn un hybrid ac yn cael ei chynnal yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Iau 15fed Mehefin 2023. Cynhelir y gynhadledd yn y Gymraeg ac mi fydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Mae croeso cynnes i bawb sy’n ymddiddori yn y gwyddorau i gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy ddilyn y ddolen isod. Bydd opsiwn i ddatgan a ydych am ymuno â ni wyneb yn wyneb neu ar-lein. Galwad i gyfrannu Gofynnir am bapurau o unrhyw ddisgyblaeth wyddonol (STEM). Croesawn gyflwyniadau gan fyfyrwyr ôl-radd, neu ymchwilwyr gyrfa gynnar, yn ogystal ag academyddion profiadol. Bydd y cyflwyniadau yn 20 munud o hyd gyda 10 munud o gwestiynau gan y gynulleidfa i ddilyn Yn ogystal, anogir cyfranwyr i gyflwyno erthygl i'w hystyried ar gyfer ei chyhoeddi yng nghyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef Gwerddon (www.gwerddon.cymru). Gallwch weld enghreifftiau o gyflwyniadau’r gorffennol yma: https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cynhadledd-wyddonol-2019 https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cynhadledd-wyddonol-2021 Gofynnir i bawb sy’n dymuno cyflwyno yn y gynhadledd ddarparu teitl a chrynodeb o’u herthygl (nid mwy na 300 gair) at l.rees@colegcymraeg.ac.uk erbyn 24 Mawrth 2023. Yn ôl ein harfer, byddwn yn recordio’r cyflwyniadau a’u huwchlwytho i’r Porth Adnoddau. Cystadleuaeth Posteri Dylai’r poster fynegi syniad gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir defnyddio poster sydd eisoes wedi cael ei greu yn barod fel rhan o fodiwl. Bydd dwy gystadleuaeth poster; un i fyfyrwyr israddedig ac un i fyfyrwyr ôl-raddedig. Bydd gwobr o £50 yr un i enillwyr y ddau gategori.
Cynhadledd Amaeth 2023
Cynhadledd ar gyfer myfyrwyr Amaeth mewn colegau addysg bellach a blwyddyn gyntaf prifysgolion. Ceir gweithdai ar bynciau sy’n rhan o waith maes y myfyrwyr. Mae’r gynhadledd am ddim a bydd paned groeso a chinio yn rhan o’r diwrnod hefyd. Cymraeg yw iaith y gynhadledd. Agorir y gynhadledd gan Melanie Owen, cyflwynydd rhaglen ‘Ffermio’ ar S4C. Dydd Mercher 15 Chwefror 2023 - Campws Gelli Aur, Coleg Sir Gâr 10.00 – 10.15 – Cyrraedd a Chofrestru 10.15 – 10.30 – Cyflwyniad gan Melanie Owen, cyflwynydd rhaglen 'Ffermio', S4C 10.30 11.15 – Gweithdy #1, ‘Bwydo Glaswellt gan ddefnyddio Tail’ – Nigel Howells 11.15 – 12.00 – Gweithdy #2 Prosiect Slyri – John Owen 12.00 – 1.00 – CINIO 1.00 – 1.45 – Gweithdy #4 – Gwaredu BVD – John Griffiths, Coleg Gelli Aur 1.45 – 2.30 – Gweithdy #4 – Dewis Cymysgedd Hadau – Cennydd Jones, Prifysgol Aberystwyth 3.15 – Cloi a Gorffen