Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar dri thraethawd yn ymdrin â Samuel Taylor Coleridge ac Immanuel Kant a gyhoeddwyd gan y diwinydd a'r dysgedydd, Lewis Edwards, yn Y Traethodydd rhwng 1846 a 1853. Ystyrir Edwards yma yn gynrychiolydd arweinwyr crefyddol Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac archwilir ei waith am dystiolaeth o'r agwedd tuag at ddatblygiadau athronyddol y cyfnod a allai gynnig esboniad am ei fethiant i amddiffyn yr iaith a'r diwylliant Cymreig yn wyneb ymlediad y Saesneg. Y ddadl a roddir gerbron yma yw bod ymlyniad Edwards i resymoliaeth ddyfaliadol, sy'n sail i ddiwinyddiaeth Galfinaidd y cyfnod, yn ei atal rhag ymateb yn uniongyrchol i sialens ddeallusol y cyfnod modern. Yn y tri thraethawd hyn, sy'n cyflwyno meddwl Kant fel y'i mynegir yn ei Kritik cyntaf, ynghyd â diwinyddiaeth athronyddol Coleridge fel a geir yn Aids to Reflection, cawn dystiolaeth glir o amharodrwydd Edwards i ymgymryd ag unrhyw sialens i'r athroniaeth Galfinaidd. Y mae'r darlun a gyflwyna o feddwl y ddau awdur yn ddiffygiol ac yn gamarweiniol. Rhan bwysig iawn o Kritik Kant ac Aids Coleridge oedd eu beirniadaeth ysgubol o resymoliaeth ddyfaliadol. Dewisodd Edwards anwybyddu hyn yn gyfan gwbl er mwyn cynnal ei gred yng ngallu dyn i ymestyn at y gwirionedd trwy gyfrwng sythwelediad deallusol, heb gyfeirio at brofiad empeiraidd. Dadleuir mai'r dallineb ewyllysgar hwn tuag at y meddwl modern oedd un o'r prif ffactorau a oedd yn symbylu'r brad y cyhuddir Edwards a'i gyfoedion ohono. Awgrymir hefyd bod y brad hwnnw'n tanseilio nid yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn unig, ond y grefydd Galfinaidd yr oedd Edwards mor awyddus i'w hamddiffyn. Wrth ymwrthod â sialens y meddwl modern, gadawodd Edwards ei ddisgyblion heb gyfrwng i addasu'r athrawiaeth draddodiadol i ofynion synwyrusrwydd cyfnewidiol. A chanlyniad hynny yn y pendraw oedd ymddieithrwch oddi wrth y gorffennol Ymneilltuol, sydd yn parhau i effeithio arnom heddiw. Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion', Gwerddon, 24, Awst 2017, 83-101.
Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion' (2017)
Llawlyfr Hen Gymraeg – Alexander Falileyev
Dyma'r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau'r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Mae'n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o Gramadeg Hen Gymraeg, Alexander Falileyev, a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008. Yn ogystal â throsi'r gwaith i'r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi'i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i'w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae'n cynnwys disgrifiadau manwl o'r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae'r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i'r Cymry ddod i adnabod rhai o'r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith. Mae Dr Falileyev, yn enedigol o St Petersburg, Rwsia, yn arbenigydd ar yr ieithoedd Celtaidd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar enwau lleoedd a phersonol Celtaidd o Ewrop yn yr hen gyfnod, ac ar iaith a llenyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol Golygydd y Gyfres: Dr Simon Rodway, Prifysgol Aberystwyth.
Archwilio Cymru'r Oesoedd Canol: Testunau o Gyfraith Hywel
Mae'r ddogfen hon gan Sara Elin Roberts a Christine James yn cynnig cyflwyniad cyffredinol i Gyfreithiau Hywel Dda, sef cyfreithiau brodorol Cymru yn yr Oesoedd Canol, trwy roi 'blas' i'r darllenydd ar yr amrywiaeth eang o feysydd gwahanol sy'n cael eu trafod yn y llawysgrifau gwreiddiol - meysydd mor amrywiol â chyfraith Gwragedd a Gwerth Offer, Coed a Chathod, rheolau ynghylch Tir, a Thrais, a Theulu'r Brenin... I gynorthwyo'r darllenydd amhrofiadol, ac er mwyn annog astudiaethau yn y maes, gosodwyd y detholion o'r testunau Cymraeg Canol gwreiddiol ochr-yn-ochr â 'chyfieithiadau' ohonynt mewn Cymraeg Diweddar. Mae rhagymadrodd byr i bob pwnc yn ei dro, a llyfryddiaeth ddethol ar ddiwedd pob uned ar gyfer darllen pellach. Dyma gyfrol a fydd o ddiddordeb a defnydd i bawb sy'n ymddiddori yn hanes y Gyfraith, hanes Cymru neu lenyddiaeth Gymraeg yn yr Oesoedd Canol. Ceir llawer mwy o wybodaeth am Gyfraith Hywel Dda ar wefan Cyfraith Hywel:
Ceri Davies, 'Syr Siôn Prys: Canoloeswr ynteu Dyneiddiwr?' (2017)
Roedd Syr Siôn Prys (1501/~1555), o Aberhonddu, ymhlith y mwyaf dylanwadol o weision y Goron yng Nghymru a'r Gororau mewn cyfnod o newidiadau gwleidyddol a chrefyddol mawr. Roedd hefyd yn un o'r Cymry cyntaf i ymateb yn gadarnhaol i rai o'r pwysleisiau diwylliannol a deallusol newydd a gysylltid â'r Dadeni Dysg. Yn yr ysgrif hon trafodir y tensiwn rhwng, ar y naill law, ei ddysg a'i safbwynt dyneiddiol ac, ar y llaw arall, ei ymlyniad wrth y fersiwn o hanes Prydain a gyflwynid yng ngwaith Sieffre o Fynwy (12g.) ac y gwrthodwyd bron y cyfan ohono gan yr Eidalwr Polidor Vergil mewn llyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn y 1530au. Ceri Davies, 'Syr Siôn Prys: Canoloeswr ynteu Dyneiddiwr?', Gwerddon, 24, Awst 2017, 8-21.
Cerys Jones et al., 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru' (2010)
Gydag ansicrwydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd, mae adluniadau o gofnodion parameteorolegol a ffenolegol yn darparu sail gref ar gyfer dadansoddi'r hinsawdd nawr ac yn y gorffennol. Fodd bynnag, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i chwblhau ynghylch hinsawdd hanesyddol Cymru, sy'n amrywio drwy'r wlad oherwydd ffactorau megis topograffeg a chylchrediad atmosfferig. Mae hyn yn arbennig o wir am orllewin Cymru, sydd ag amrywiaeth o amgylcheddau, o 'ddiffeithwch gwyrdd' yr ucheldir i'r gwastatiroedd arfordirol ffrwythlon, lle gellid adlunio hanes helaeth o bosibl o adnoddau dogfennol digyffwrdd. Mae'r potensial yn anferth gan fod ffynonellau posibl gwybodaeth feteorolegol yn cynnwys yr holl ddogfennau crefyddol, swyddogol a phersonol, a allai gynnig cipolwg ar y berthynas rhwng y Cymry a'r tywydd. Cerys A. Jones, Neil Macdonald, Sarah J. Davies, Cathryn A. Charnell-White, Twm Elias a Duncan Brown, 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 34-54.
Coffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru – seminar gyda'r Athro Syr Deian Hopkin
Coffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru – seminar gyda'r Athro Syr Deian Hopkin
Yr Athro Syr Deian Hopkin yn siarad â myfyrwyr ar 20 Mawrth 2014 ynglŷn â sut i goffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru yn ystod canmlwyddiant dechrau'r rhyfel.
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Mae'r Athro Gareth Williams yn hanesydd disglair, yn arbenigo ar ddiwylliant poblogaidd yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Mae bellach yn Athro Emeritws Prifysgol De Cymru. Yma, mewn darlith a draddododd ym Mhrifysgol Abertawe ar 17 Ebrill 2013, mae'n trafod pa ysgrifau sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa.
Cyfraith Hywel Dda
Dyma'r man cychwyn ar gyfer darganfod mwy am Gyfraith Hywel neu system gyfreithiol Cymru yn yr oesoedd canol. Ariannwyd datblygiad y wefan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.