Dyma adroddiad sy'n deillio o waith Prifysgol Abertawe ar brosiect Swan-Linx, prosiect iechyd a ffitrwydd sydd â'r nod o ymchwilio i iechyd a lles plant ysgol ym mlynyddoedd 5 a 6 (9-11 oed). Mae'r adroddiad yn seiliedig ar ddata a gasglwyd drwy gyfrwng: Arolwg iechyd ar y we o'r enw CHAT (Child Health and Activity Tool) sy'n gofyn cwestiynau am ymddygiadau iechyd gwahanol gan gynnwys diet, gweithgaredd corfforol, cwsg a lles. Diwrnod Hwyl Ffitrwydd, lle cafodd BMI (Mynegai Màs y Corff), ffitrwydd aerobig, cyflymder, cryfder, ystwythder, p?er, a hyblygrwydd yn cael eu mesur. Ariannwyd y gwaith cyfrwng Cymraeg gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Adroddiad Swan-Linx Cymru ar iechyd a lles plant ysgol
Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad' (2014)
Mae deugain mlynedd o waith ymchwil wedi nodi sawl un o'r prosesau seicolegol sy'n sail i'r gallu i ddarllen. Serch hynny, tan yn ddiweddar, bu seiliau gwybyddol (cognitive) rhuglder darllen yn gymharol anhysbys. Yn yr adolygiad hwn, rhoddir disgrifiad o ruglder darllen fel ffenomen wybyddol a niwrofiolegol, gan gynnwys y gwaith ymchwil a wnaed i ddeall y broses hon. Mae fy ngwaith i a'm cyd-weithwyr yn canolbwyntio ar y maes hwn, ac amlinellaf ein prif ganfyddiadau hyd yma. Deuir â'r gwaith i'w derfyn drwy amlinellu goblygiadau'r gwaith mewn perthynas â deall rhuglder darllen yn achos oedolion medrus ynghyd â'r rhai sydd â'r cyflwr dyslecsia. Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad', Gwerddon, 18, Medi 2014, 41-54.
Mirain Rhys, 'Y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen' (2018)
Mae’r Cyfnod Sylfaen (CS) yn gwricwlwm statudol ym mhob ysgol gynradd y wladwriaeth yng Nghymru ers 2008. Mae’r bedagogeg yn ddatblygiadol, ac yn annog y plant i ymddiddori drwy ddysgu drwy brofiadau. Mae’r papur hwn yn rhan o werthusiad ehangach o’r CS a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012, ac mae’n ystyried un o’r saith maes dysgu sy’n rhan o’r CS; ‘Datblygu’r Gymraeg’. Darganfu nad oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn sut oedd y CS yn cael ei weithredu mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Ond, yn gyffredinol, datblygir y Gymraeg yn ffurfiol mewn gweithgareddau boreol ar gyfer y dosbarth cyfan (e.e. amser cylch) sy’n mynd yn groes i weledigaeth Llywodraeth Cymru o gydblethu’r iaith ym mhob agwedd ar y CS. Mae’r papur yn ystyried sut mae ysgolion a lleoliadau yn mynd ati i ddatblygu unigolion dwyieithog, yn ôl gobeithion polisi Llywodraeth Cymru.
Bagloriaeth Cymru
Bwriad y ddau becyn yma yw rhoi cymorth i athrawon i gyflwyno’r elfen Cymru, Ewrop a’r Byd o Fagloriaeth Cymru. Trefnwyd y pecynau o gwmpas themâu gwahanol, a phob un yn edrych ar le Cymru yn Ewrop ac yn y byd mewn modd bywiog a chyffrous.
Osian Rees a Huw Pritchard, 'Gwersi o Ogledd Iwerddon: Awdurdodaeth Gymreig a dyfodol addysg gyfreithiol yng N...
Arweiniodd datganoli at wahaniaethau sylweddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr. Yn ogystal, mae'r drafodaeth ynghylch yr angen i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig ar wahân i Loegr wedi dechrau o ddifrif. Gyda hyn mewn golwg, mae'r erthygl yn edrych ar addysg gyfreithiol yng Nghymru, ac yn ystyried pa ddatblygiadau sy'n angenrheidiol er mwyn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil datganoli, yn ogystal ag unrhyw ddatblygiadau pellach y byddai galw amdanynt pe sefydlid awdurdodaeth Gymreig. Yn sgil hynny, mae'r erthygl yn amlinellu rhai o ddarganfyddiadau allweddol prosiect ymchwil empeiraidd a gynhaliwyd yng Ngogledd Iwerddon, sydd – fel awdurdodaeth fechan â llywodraeth ddatganoledig o fewn y Deyrnas Unedig – yn cyflwyno safbwynt dadlennol. Osian Rees a Huw Pritchard, 'Gwersi o Ogledd Iwerddon: Awdurdodaeth Gymreig a dyfodol addysg gyfreithiol yng Nghymru', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 40-62.
Bryn Jones, '"Amrywiaeth Caleidosgopig": Addysg ddwyieithog yng Nghymru heddiw' (2010)
Mae addysg ddwyieithog (h.y. Cymraeg a Saesneg) yn digwydd yn gyffredin yng Nghymru. Erbyn hyn, ceir amrywiaeth sylweddol yn narpariaeth addysg ddwyieithog ac, fel yn achos ieithoedd lleiafrifol mewn rhannau eraill o Ewrop, mae addysg ddwyieithog yng Nghymru yn gyfuniad o addysg mewn treftadaeth / cynhaliaeth iaith (Cymraeg iaith 1af) ac addysg drochi (Cymraeg 2il iaith). Gan fod addysg ddwyieithog ledled Cymru wedi’i nodweddu gan "amrywiaeth caleidosgopig" (Baker 1993:15), mae athrawon yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu ac addysgu dwyieithog. Yn dilyn cyfweliadau / arsylwadau mewn ysgolion uwchradd a chynradd dwyieithog ledled Cymru yn ystod 2007-2009, bydd y papur hwn yn esbonio nodau a methodoleg y prosiect ymchwil dan sylw, cyn symud ymlaen i drafod rhai canfyddiadau cychwynnol. Ceir cyfeiriad penodol at ddefnydd cydamserol, pwrpasol o iaith, gan fod athrawon yn defnyddio’r ddwy iaith ar yr un pryd yn ystod gwersi. Deuir i’r casgliad bod angen ymchwil bellach i ‘amrywiaeth caleidosgopig’ arferion addysg ddwyieithog mewn ysgolion yng Nghymru, yn ogystal â dadansoddiad a gwerthusiad o’r modiwlau addysgu dwyieithog yr arsylwyd arnynt.
Cefnogi Pob Plentyn (gol. Nanna Ryder)
Nod y gyfrol hon yw cyflwyno rhai pynciau perthnasol mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig i fyfyrwyr sydd yn astudio Graddau Sylfaen yn y maes addysg a gofal. Nid canllaw arfer dda a geir yma ond yn hytrach fraslun o bolisïau, athroniaeth ac ymarfer cyfredol. Caiff pynciau penodol eu trafod ym mhob pennod ac mae’r rhain yn amrywio o ddatblygiad, hawliau, lles a diogelu plant i gynhwysiant, Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chwarae a chreadigrwydd.
Prysor Mason Davies ac Emily Parry, 'Pan fo addysgwyr yn ddysgwyr – safbwyntiau ar hyder ymarferwyr ail iaith ...
Mae 'Datblygu’r Gymraeg' yn y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn faes y rhoddir cryn dipyn o bwyslais arno, ac felly mae’r erthygl hon yn rhoi sylw i safbwyntiau ymarferwyr sydd yn siarad Cymraeg fel ail iaith ac sydd yn addysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen. Gwerthusir dyfnder yr heriau y teimlant y maent yn eu hwynebu wrth gyflwyno iaith nad ydynt yn gwbl hyderus ynddi, gan ystyried rhai o’r goblygiadau a amlygir gan eu safbwyntiau. Rhoddir ystyriaeth i hyder ymarferwyr yng nghyd-destun polisi a chwricwlwm Cymru ac amlygir bod yr elfen hon o addysg braidd yn anweledig yng nghyd-destun ystyriaethau datblygu’r Gymraeg, a’i bod yn effeithio ar niferoedd sylweddol o ddisgyblion Cyfnod Sylfaen yng Nghymru. Awgrymir bod yr agwedd hon ar y Cyfnod Sylfaen yn un sydd angen ystyriaeth a sylw buan.
Rhian Hodges, 'Tua'r goleuni': Rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i'w plant yng Nghwm Rhymni' (2010)'
Mae'r system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru eisoes yn arf cynllunio ieithyddol effeithiol er mwyn trosglwyddo'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Yn ôl Cyfrifiad 2001 mae cynnydd amlwg ymhlith siaradwyr Cymraeg 3–15 oed, ac yn arbennig siaradwyr Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru ers canlyniadau Cyfrifiad 1991. Bwriad y papur hwn yw mynd tu hwnt i'r ystadegau meintiol a chanolbwyntio ar yr ansoddol drwy ddarganfod y prif resymau paham y mae rhieni yn dewis y system addysg hon i'w plant. Lleoliad yr astudiaeth yw Cwm Rhymni, sir Gaerffili. Gweinyddwyd ymhlith rhieni sectorau'r ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yng Nghwm Rhymni gyfuniad o holiaduron meintiol a chyfweliadau ansoddol dwys er mwyn cyflawni'r astudiaeth hon. Y rhesymau dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant yn ôl rhieni sectorau meithrin, cynradd ac uwchradd y sampl oedd rhesymau diwylliannol, addysgol, economaidd a phersonol, fel ei gilydd. Fodd bynnag, rhaid nodi o'r cychwyn mai rhesymau diwylliannol yw prif resymau rhieni'r ardal dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant, yn hytrach na rhesymau economaidd a nodwyd mewn sawl astudiaeth flaenorol megis astudiaeth Williams et al, (1978) ar addysg ddwyieithog yn y Rhondda. Cam cyntaf mewn corpws o waith i'r dyfodol yw'r astudiaeth ac un sy'n gobeithio llenwi'r lacunae presennol ym maes Cymdeithaseg Iaith yng Nghymru, yn arbennig o ystyried bod yna ddiffyg amlwg mewn astudiaethau Cymdeithaseg Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Rhian Siân Hodges, ''Tua'r goleuni': Rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i'w plant yng Nghwm Rhymni', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 9-33.
Sally Baker et al., 'Trafodaeth feirniadol o gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth at addysg gwaith cymdeithasol yng...
Mae'r erthygl hon yn adrodd canfyddiadau gwaith cychwynnol a wnaed i asesu cyfraniad defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr at addysg gwaith cymdeithasol mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru ac mae'n trafod yn feirniadol gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr at addysg gwaith cymdeithasol. Mae swyddogaeth defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr yn y cyd-destun hwn yn parhau i fod yn amwys. Awgrymwn y caiff hyn ei adlewyrchu yn sylwadau'r defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr, sy'n adrodd yn aml am werth eu cyfraniad at addysg gwaith cymdeithasol yn nhermau'r manteision personol – therapiwtig yn aml – iddynt hwy o gymryd rhan. Mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn frwdfrydig am gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr at eu haddysg, ac yn credu ei fod yn werthfawr, ond roedd ganddynt syniadau amrywiol am sut a beth y gallai ac y dylai'r defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr ei gyfrannu. Sally Baker, Hefin Gwilym, a Brian J. Brown, 'Trafodaeth feirniadol o gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth at addysg gwaith cymdeithasol yng Nghymru', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 28-44.
Siân Wyn Siencyn, 'Darpariaeth Gymraeg i blant ifanc: hanes a heriau datblygiad addysg feithrin yng Nghymru' (...
Bu datblygiad addysg feithrin Cymraeg yn stori o lwyddiant arbennig dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2000, gwelwyd Cymru’n symud ymhellach yn ei dyheadau ar gyfer ei phlant ifanc. Un o flaenoriaethau cyntaf y Llywodraeth Gymreig gyntaf oedd y Cyfnod Sylfaen gyda’i hymagweddiad radical. Bydd y papur hwn yn ymdrin â datblygiad addysg feithrin yng Nghymru gyda thrafodaeth ar yr hanes cyn ac ar ôl datganoli. Gosodir polisïau Cymraeg oddi mewn i gyd-destun dylanwadau ymchwil a phedagogaidd ehangach ar addysg blynyddoedd cynnar, er enghraifft y dystiolaeth ynghylch arfer dda o du EPPE (The Effective Provision of Pre-School Education Project). Edrychir yn benodol ar ddarpariaeth Gymraeg a chyfraniad Mudiad Meithrin ynghyd â thrafodaeth ar y damcaniaethau ynghylch dwyieithrwydd, gyda golwg ar ddwyieithrwydd cynnar yn benodol. Ceir amlinelliad a beirniadaeth ddadansoddol o’r heriau sy’n wynebu’r maes yn sgil datblygiadau gwleidyddol cyfoes a pholisïau cyfredol. Er dibenion y papur hwn, diffinnir addysg feithrin fel gwasanaethau addysg a gofal ar gyfer plant ifanc o 3–5+ oed, a defnyddir y term ‘blynyddoedd cynnar’ i’r un diben.
Sgiliau Iaith i Athrawon
Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn cynnwys cyfres o adnoddau a ddatblygwyd i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith ar gyfer y dosbarth. Mae'r adnoddau i'w cael yn llawn ar-lein, neu gellir lawrlwytho'r ap i'ch dyfais symudol er mwyn cael blas arnynt.