Ychwanegwyd: 10/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.9K

Cynhadledd Ymchwil Rithiol 2020

Disgrifiad

Croeso i Gynhadledd Ymchwil rithiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Yma cewch fynediad i bopeth sy’n ymwneud a’r Gynhadledd:

Mae dwy ran i’r gynhadledd: 

1. Cyflwynir 4 papur byw ar 1 Gorffennaf (10:00-12:30) - bydd recordiadau'r gynhadledd yn cael eu hychwnegu isod yn fuan.

2. Yn ogystal â’r cyflwyniadau byw y byddwch chi’n eu gweld ar 1 Gorffennaf, mae 13 o fyfyrwyr ymchwil ac academyddion Cymraeg wedi mynd ati i recordio cyflwyniadau ymlaen llaw.

Isod, cewch fynediad at y cyfan a gofynnwn i chi eu gwylio a’u mwynhau yn eich amser eich hun cyn y Gynhadledd.

Ewch ati i baratoi cwestiynau os gwelwch yn dda!  Bydd cyfle i chi holi eich cwestiwn rhwng 2 a 3:30 ar 1 Gorffennaf.  Gofynnwn i chi gyflwyno eich cwestiynau ar Twitter trwy ddefnyddio #cynhadleddymchwil20 ac mae cyfrifon Twitter y cyfranwyr i’w gweld wrth i chi edrych ar y cyflwyniadau.  Os nad ydych chi’n defnyddio Twitter, holwch eich cwestiynau yn y blwch perthnasol sydd i’w weld o dan bob cyflwyniad.

Mwynhewch a chyfrannwch!

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Sgiliau Ymchwil
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Cynhadledd
Cynhadledd Ymchwil Rithiol 2020

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.