Ychwanegwyd: 25/11/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.5K Dwyieithog

Dathlu a Datblygu Cymraeg Gwaith

Disgrifiad

Dyma gweminar ar gyfer dysgwyr a thiwtoriaid y cynllun Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch ac unrhyw un sydd â rôl gynllunio o safbwynt y Gymraeg yn eu sefydliad.

Fe’i cynhelir trwy Zoom trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg.

O dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mae’r cynllun wedi bod yn uwchraddio sgiliau Cymraeg staff mewn prifysgolion a cholegau ledled Cymru ers pum mlynedd.

Ymunwch â'n gweminar i ddathlu llwyddiannau Cymraeg Gwaith yn y ddau sector ac i glywed gan y dysgwyr eu hunain. Bydd ail ran y gweminar yn gyfle i glywed am ddatblygiadau i’r dyfodol.

 

Dyddiad ac amser

Dydd Iau 16 Rhagfyr 10yb-11.30yb

 

10yb – Dathlu Cymraeg Gwaith

11yb – Datblygu Cymraeg Gwaith

 

Cyfranwyr

  • Dona Lewis,  Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Nia Brodrick - Cydlynydd Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach
  • Owen Thomas - Cydlynydd Cymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch
  • Panel y Dysgwyr: Cynrychiolwyr o golegau ac o brifysgolion Cymru
  • Tiwtoriaid y cynllun

 

I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Oedolion
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Mân Lun Gweminar Cymraeg Gwaith

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.