Dyma gweminar ar gyfer dysgwyr a thiwtoriaid y cynllun Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch ac unrhyw un sydd â rôl gynllunio o safbwynt y Gymraeg yn eu sefydliad. Fe’i cynhelir trwy Zoom trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg. O dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mae’r cynllun wedi bod yn uwchraddio sgiliau Cymraeg staff mewn prifysgolion a cholegau ledled Cymru ers pum mlynedd. Ymunwch â'n gweminar i ddathlu llwyddiannau Cymraeg Gwaith yn y ddau sector ac i glywed gan y dysgwyr eu hunain. Bydd ail ran y gweminar yn gyfle i glywed am ddatblygiadau i’r dyfodol. Dyddiad ac amser Dydd Iau 16 Rhagfyr 10yb-11.30yb 10yb – Dathlu Cymraeg Gwaith 11yb – Datblygu Cymraeg Gwaith Cyfranwyr Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Nia Brodrick - Cydlynydd Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach Owen Thomas - Cydlynydd Cymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch Panel y Dysgwyr: Cynrychiolwyr o golegau ac o brifysgolion Cymru Tiwtoriaid y cynllun I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Dathlu a Datblygu Cymraeg Gwaith
Addysgeg Dysgu ac Addysgu Dwyieithog yn y Cyfnod Normal Newydd
Dyma gyfres o adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol a ddatblygwyd i gefnogi tiwtoriaid i fewnosod y Gymraeg ac addysgu'n ddwyieithog mewn amgylchedd dysgu ar-lein. Mae dewis o chwe uned gwahanol, ac mae pob uned tua awr o hyd. Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Gofal Plant yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes y Gymraeg fel sgil ar gyfer byd gwaith yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Dysgu Oedolion yn y cyfnod normal newydd.
Say it in Cymraeg
Datblygwyd yr adnoddau canlynol gan Addysg Oedolion Cymru (Adult Learning Wales) i gefnogi tiwtoriaid i ymgorffori'r Gymraeg yn eu darpariaeth. Mae'r gyfres posteri 'Say it in Cymraeg' yn canolbwyntio’n benodol ar eirfa. Gellir defnyddio'r posteri hyn fel delweddau mewn cyflwyniadau fel Prezi neu PowerPoint, wedi'u lamineiddio fel adnoddau ystafell ddosbarth, eu defnyddio yn ystod y cyfnod sefydlu, gweithgareddau torri iâ, ymarferion gloywi, eu defnyddio fel gair / geiriau Cymraeg y dydd a llawer mwy. Mae rhai yn restrau cyffredinol y gellir eu defnyddio gan bob tiwtor e.e. diwrnodau, dyddiadau a misoedd, tra bod eraill yn ymwneud â maes pwnc penodol, e.e. gwnïo. Mae gan un o’r adnoddau, ‘Ateb y Ffôn’ elfen ryngweithiol sain hefyd, felly gallwch ymarfer yr ynganiad (noder, ni fydd y sain yn gweithio wrth agor y ddogfen mewn porwr gwe, bydd angen agor y PDF yn defnyddio darllenydd PDF fel Adobe Reader i gael mynediat at y sain).