Ychwanegwyd: 30/06/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 2.1K Dwyieithog

Mwy na Geiriau: Cyfathrebu mewn Iechyd a Gofal

Disgrifiad

Nod yr adnodd hwn yw cyflwyno ymwybyddiaeth iaith mewn iechyd a gofal i fyfyrwyr addysg uwch ac ymarferwyr proffesiynol.

Ei brif amcan yw meithrin hyder myfyrwyr i ddefnyddio eu Cymraeg gyda chleifion a chydweithwyr yn y GIG.

Datblygwyd yr adnodd hwn ar gyfer myfyrwyr addysg uwch (lefel 4+) sydd yn astudio unrhyw bwnc iechyd a gofal ac yn bwriadu mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr proffesiynol a gellir ei ddefnyddio fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Ac eithrio Uned 1, mae pob uned yn dilyn llwybr claf penodol er mwyn dangos sut mae gwahanol broffesiynau yn cydblethu ac yn cael effaith ar brofiad y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth. Gellir gweithio drwy’r pecyn cyfan yn ôl ei drefn neu ddewis a dethol unedau penodol. Mae modd addysgu’r unedau yn yr ystafell ddosbarth neu eu hastudio’n annibynnol.

Mae rhan fwyaf o’r unedau yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a therminoleg Cymraeg i’w defnyddio gyda chleifion a staff. Er y bydd yr eirfa hon yn gyfarwydd i fyfyrwyr sydd eisoes yn siarad Cymraeg, fe’u hanogir i ystyried sut i rannu a dysgu’r eirfa i’w cyfoedion. Yn sgil hyn, mae’r cynnwys hwn yn addas i bob myfyriwr, beth bynnag fo’u gallu Cymraeg.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Iechyd a Gofal
Trwydded
CC BY-SA 4.0
Adnodd Coleg Cymraeg Cwrs/Uned
mân lun mwy na geiriau

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.