Dyma Gynhadledd ar gyfer myfyrwyr 16 oed a throsodd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn peirianneg, cyfrifiadureg, neu bwnc cysylltiedig. Bydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal dros Zoom, drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg. Pa lwybrau gyrfa y gallwch chi eu dilyn? Pa alw sydd am eich sgiliau yng Nghymru ac yn Gymraeg? Ymunwch â'r Gynhadledd i glywed gan bobl sy'n gweithio yn y meysydd hyn. Bydd cyfle gennych i ofyn cwestiynau hefyd. Cadeirydd: Ann Beynon Cyn-gomisiynydd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru a chyn-gyfarwyddwraig BT Cymru Siaradwyr: Peter Gwyn Williams - Adran Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru Carwyn Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr TGCh a Busnes Digidol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru Mark Davies, Peiriannydd Sifil, Cyfarwyddwr EDAF Siwan Owen, Rheolwr Datblygu Cyswllt, Electronic Arts Ceri Mai, Prentis Gradd Seiberddiogelwch, Cyngor Gwynedd Hywel Ifans, Cyfarwyddwr BCC IT Rhys Williams, Rheolwr Systemau a TG, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cynhadledd Dechnoleg Ar-lein 2021
Daniel Roberts ac Iestyn Pierce, 'Cynllunio "Laser Tonfedd Ddeuol"' (2016)
Mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar y syniad o gynllunio laser â'r gallu i daflu golau ar ddwy donfedd wahanol yr un pryd. Mae laser o'r math hwn wedi cael ei gynllunio yn y gorffennol, ond roedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy donfedd ar raddfa lawer mwy. Bwriedir lleihau'r gwahaniaeth hwn, ond byddwn yn dal i fedru cael y laser i allyrru gan ddefnyddio dwy donfedd ar wahân. Bydd effaith ehangu lled y llinell hefyd yn cael ei ystyried, gan ei bod yn bwysig edrych ar y pellter rhwng y ddwy donfedd cyn eu bod yn ymddangos yn un brig llydan yn y sbectrwm, yn hytrach na dau frig cul. Bydd y pellter hwn yn cael ei fesur er mwyn sefydlu terfyn ar gyfer y gwahaniad mwyaf posibl rhwng y ddwy donfedd lle na fyddai'n bosibl gweld dwy linell gydrannol yn y sbectrwm. Bydd gwneud hyn yn galluogi dylunio 'laser tonfedd ddeuol' ag amrediad o wahaniaethau o ran tonfedd, a fydd yn arwain at y posibilrwydd o greu ymbelydredd teraherts o un laser, yn hytrach na 'chymysgu' y golau o ddau laser gwahanol gyda'i gilydd, fel a wnaed yn y gorffennol. Daniel Roberts ac Iestyn Pierce, 'Cynllunio “Laser Tonfedd Ddeuol”', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 75–93.
Eifion Jewell, Tim Claypole a David Gethin, 'Dadansoddiad o berfformiad lampau electroymoleuol printiedig ar i...
Er mwyn archwilio marchnadoedd newydd ar gyfer deunyddiau electronig printiedig, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil i geisio deall perfformiad lampau electroymoleuol (EL) a gynhyrchwyd ar is-haen ('substrate') ddi-draidd. Daw'r posibilrwydd o greu'r lampau o ddeunydd inc sylffonad polystyren poly(3,4-ethylendeuocsithioffen) (PEDOT:PSS) sy'n ffurfio'r electrod top yn y lamp ac sy'n cael ei amnewid am yr indiwn tin ocsid (ITO) a ddefnyddir mewn lampau confensiynol. Gan ddefnyddio proses printio sgrin syml, cynhyrchwyd lampau ar bedair is-haen ddi-draidd (un blastig a thair bapur) a chymharwyd eu perfformiad drwy fesur lefel eu disgleirdeb. Yn gyffredinol, gwelwyd lleihad o tua 50% yn nisgleirdeb y lampau o'i gymharu â disgleirdeb lampau a gynhyrchwyd gan ddefnyddio ITO. Roedd papur ysgafnach a mwy garw yn lleihau'r disgleirdeb ymhellach. Nid oedd modd cynyddu disgleirdeb y lampau drwy ychwanegu haen ychwanegol o PEDOT:PSS gan fod hynny'n lleihau'r nodweddion tryloyw. Wrth gynyddu maint y lamp, mae effaith gwrthiant y PEDOT:PSS o'i gymharu â'r ITO yn achosi dirywiad sylweddol ym mherfformiad y lamp ac yn cyrraedd lefel o 25% yn unig o ddisgleirdeb lamp ITO o 5000 mm2. Nid y lleihad yn nargludedd a thryloywder y PEDOT:PSS o'i gymharu ag ITO yn unig sy'n gyfrifol am berfformiad cymharol wael y lampau di-draidd, ond hefyd natur dopolegol y gronynnau ffosffor, sy'n golygu bod rhai o'r gronynnau y tu hwnt i effaith y maes trydanol a grëwyd rhwng y ddau electrod. Eifion Jewell, Tim Claypole a David Gethin, 'Dadansoddiad o berfformiad lampau electroymoleuol printiedig ar is-haen ddi-draidd', Gwerddon, 25, Hydref 2017, 30–44.
Ben Barr, 'Codi pontydd Cymru' (2008)
Mae'r papur yn adrodd ar dri chyfnod o godi pontydd yng Nghymru. Roedd y cyfnod cyntaf, o amser y Rhufeiniaid hyd at ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol, wedi'i ddominyddu gan y defnydd o ddeunyddiau lleol (carreg a phren) gan grefftwyr lleol. Roedd yr ail gyfnod yn rhan annatod o'r Chwyldro Diwydiannol, pan gafodd deunyddiau newydd ar gyfer codi pontydd (haearn bwrw, haearn gyr a dur) eu datblygu a'u defnyddio wrth adeiladu pontydd camlas a rheilffordd. Roedd y trydydd cyfnod yn gysylltiedig â thwf traffig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan ddaeth concrid a dur yn brif ddeunyddiau ar gyfer codi pontydd yn ystod datblygiad y cefnffyrdd a'r traffyrdd. Mae'r papur yn dangos, mewn termau syml, y datblygiadau sylfaenol o ran peirianneg adeiladu a oedd yn sail i'r datblygiadau hyn wrth i ddeunyddiau newydd ddod ar gael i godi pontydd. Yn benodol, trafodir datblygiad croestoriadau trawst, tiwbiau a chyplau amrywiol. Hefyd, rhoddir sylw i gyfraniad sylweddol pedwar codwr pontydd sy'n enwog dros y byd: William Edwards a gododd y bont fwa enwog ym Mhontypridd; Thomas Telford a gododd Ddyfrbont Pontcysyllte a Phont Grog Menai; Robert Stephenson a gododd bontydd tiwb yng Nghonwy a dros y Fenai; ac I. K. Brunel a gododd Bont Reilffordd unigryw Cas-gwent a'r draphont reilffordd bren yng Ngland?r, Abertawe. Yn olaf, mae'r papur yn tynnu sylw at rai o bontydd unigryw Cymru. Ben Barr, 'Codi pontydd Cymru', Gwerddon, 3, Mai 2008, 11-35.