Hogyn ifanc o Drawsfynydd oedd Ellis Williams a ymatebodd fel llawer iawn o'i gyfoedion i'r alwad i fynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mrwydr enwog Coed Mametz, dioddefodd anafiadau difrifol i'w wyneb. Treuliodd ddwy flynedd mewn ysbyty milwrol yn Ffrainc gan dderbyn llawdriniaethau arloesol lu mewn ymgais i ail-adeiladu ei wynepryd. Yn 1924, ysgrifennodd Ellis gofnod o'i brofiadau rhyfeddol, cofnod a fu o dan glawr tan nawr. Yn y rhaglen hon daw Huw Garmon â geiriau Ellis Williams yn fyw gan greu darlun gonest a theimladwy o fywyd milwr cyffredin o Gymro mewn rhyfel yn ei holl erchylltra. Ffranc, 2014.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.