Portread tyner o'r diweddar hanesydd canu gwerin, yr athronydd a'r cynhyrchydd adloniant o Danygrisiau, y Dr Meredydd Evans a fu farw flwyddyn yn ôl i heddiw (ar 21 Chwefror 2015). Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig yn ei gartref diarffordd yng Nghwm Ystwyth ynghyd â chyfweliadau gyda chyfeillion, edmygwyr ac aelodau o'i deulu, dyma ddarlun o ddyn sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino dros hawliau i Gymru a'r Gymraeg dros y blynyddoedd ac sydd hefyd wedi cyfrannu'n uniongyrchol tuag at ddiwylliant y wlad. Ag yntau wedi penderfynu'n ddiweddar i ymddeol o lygad y cyhoedd, dyma lwyfan olaf Merêd, lle mae'n edrych yn ôl dros ei fywyd ac yn gwyntyllu ei farn ynglÅ·n â sawl pwnc sy'n agos at ei galon. Cwmni Da, 2014.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.