Rhaglen yn olrhain hanes un o arlunwyr pwysicaf Cymru, Thomas Jones, Pencerrig. Mari Griffith fydd yn dilyn ôl-troed yr artist ar strydoedd Napoli ac yn rhoi rhagolwg arbennig o arddangosfa gynhwysfawr o'i waith a gynhaliwyd y llynedd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Cwmni Da, 2003. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Trwy Lygaid Thomas Jones (2003)
Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam (2016)
Hanner canrif yn ôl, ym 1966, aeth y ffotograffydd o Ruddlan, Philip Jones Griffiths, i Fietnam am y tro cyntaf. Byddai'r profiad yn llywio ei yrfa. Tynnodd Griffiths luniau dirdynnol o effaith ddinistriol rhyfel, nid yn unig ar Fietnamiaid diniwed, ond hefyd ar y milwyr. Newidiodd ei lyfr o luniau du a gwyn, VIETNAM INC. ym 1971, ein dealltwriaeth am byth o'r gwrthdaro gwaedlyd. Gyda chyfweliadau gan y rhai oedd agosaf ato; teulu a ffrindiau a chyd-weithwyr yn cynnwys John Pilger, Don McCullin a'r Athro Noam Chomsky, mae'r rhaglen ddogfen arbennig hon yn bwrw golwg ar fywyd y dyngarwr, a'r etifeddiaeth a adawodd ar ei ôl. Yn glasuron y byd ffotonewyddiaduraeth, mae ei luniau mor bwerus heddiw ag erioed. Rondo, 2016. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Graffiti (pennod 1) (1990)
Twm Morys a Llinos Ann sy'n cyflwyno. Mae'r rhaglen yn cynnwys yr eitemau canlynol: agoriad arddangosfa'r artist Keith Andrew yn Amgueddfa'r Gogledd, Llanberis; Steve Eaves yn canu 'Tir Neb'; Bardd yr Wythnos; Geraint Tilsley yn adrodd 'Muriau'; eitem ar y cerflunydd a'r llenor, Jonah Jones, a Bob Delyn a'r Ebillion yn perfformio 'Pethe'. HTV Cymru, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymru yn Washington (2009)
Dilynwn yr artist Angharad Pearce Jones wrth iddi baratoi arddangosfa Cymru yng Ngŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian yn Washington DC. Byddwn hefyd yn dilyn rhai o'r Cymry fu'n perfformio yn yr ŵyl, yn cynnwys 'Parti Cut Lloi', y bardd Ceri Wyn Jones, a'r artist Christine Mills, ac yn clywed ymateb y gynulleidfa yno iddynt. Cwmni Da, 2009. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byd o Liw: Y Rhyfel Mawr (2008)
Yn y rhaglen hon a fydd yn cofio'r Rhyfel Mawr 90 mlynedd ar ôl iddi orffen, mae Osi yn edrych ar gynfas eang o fudiadau celf y cyfnod a ddarluniodd ryfel mewn ffordd gwbl newydd a chwyldroadol. Cyn y Rhyfel Mawr, roedd arlunwyr yn dueddol o ramantu rhyfeloedd a milwyr trwy ddarluniau a oedd yn aml iawn wedi'u comisiynu.Ond mae arlunwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn dangos dioddefaint a chreulondeb rhyfel mewn ffyrdd uniongyrchol a blaengar. Fe ddylanwadodd y rhyfel yn drwm ar gynnwys lluniau. Mae'r rhaglen yn dangos sut y gwnaeth yr arlunwyr yma ddarlunio rhyfel fel rhywbeth creulon ac annynol er gwaethaf pwysau o lywodraethau gwledydd fel Prydain, Ffrainc a'r Almaen i arlunwyr bortreadu rhyfel fel rhywbeth nobl, aruchel i hybu propaganda rhyfel. Gan ffilmio ar feysydd y gad yn Ffrainc a Fflandrys, cawn weld sut y gwnaeth profiadau tywyll rhyfel ddylanwadu ar arlunwyr Ewropeaidd fel Otto Dix, Picasso, Stanley Spencer, David Jones a Frank Brangwyn. Zip TV, 2008. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bilbao, Belffast a Bala
Yr artist a’r beirniad celf Iwan Bala fydd yn edrych ar gelf gyhoeddus yng Nghymru a thramor ac yn holi, beth yn union yw celf gyhoeddus. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ar Drywydd Dic Aberdaron (2007)
Luned Emyr a’r hanesydd celf Peter Lord sydd ar drywydd y gweithiau celf niferus a ysbrydolwyd gan un o’r ffigurau hynotaf yn hanes diwylliant Cymru - yr ieithydd chwedlonol Richard Robert Jones. Mae Peter yn credu fod Dic wedi ysbrydoli mwy o weithiau celf nag unrhyw Gymro neu Gymraes arall gydag eithriad posib David Lloyd George, ond faint o’r gweithiau hyn sydd wedi goroesi heddiw? Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Symposiwm Gair am Gelf
Cyflwyniadau o Symposiwm Gair am Gelf, 21 Hydref 2013. Gwenllian y Beynon, cydlynydd y symposiwm, yn cyflwyno'r cyrsiau celf cyfrwng Cymraeg sydd ar gael. Yr artist Osi Rhys Osmond yn trafod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a chelfyddydau cyfrwng Cymraeg.
Salem's Peace? A close reading of Cliff McLucas's portrait of Cynog Dafis
In 1987, the artist Cliff McLucas was working at Ysgol Gyfun Ddwyieithog Dyffryn Teifi on a project titled ‘The Dyfed Media Residency’. As part of his work, he created a series of portraits of teachers and related staff using the technique of photographic collage. Amongst these pictures is a portrait of the school’s English teacher at the time, the politician and Welsh-language activist, Cynog Dafis. I propose a close reading of this portrait that centres on Dafis’ public political career in the context of McLucas’ own life experience. McLucas moved from Scotland to Tregroes, Ceredigion, in 1973. At the same time he learnt Welsh. McLucas’s portrait will be discussed in terms of a self-conscious response to his presence as an incomer in Ceredigion whilst facing a member of the intellectual elite of his host culture. In conclusion, a relationship between McLucas’ portrait of Dafis and Sidney Vosper Curnow’s painting from 1908, ‘Salem’, will be suggested. At the end of the article, a short post-script relates the discussion of McLucas’ portrait of Dafis to contemporary issues of in-migration and out-migration in and from rural areas of Wales.
Darlith Flynyddol 2019: Teulu Wynniaid Gwedir
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019: Teulu Wynniaid Gwedir, gan John Gwynfor Jones.