Trafodaeth gan yr athronydd Cymreig, J. R. Jones, ar hunaniaeth y Cymry a pherthynas hynny gyda'r iaith Gymraeg, ei dirywiad a'r pwysau i gymhathu â'r diwylliant Prydeinig. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol
Ni Fyn y Taeog Mo'i Ryddhau – J. R. Jones
Hir Oes i'r Iaith – Robert Owen Jones
Mae iaith a chymdeithaseg yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Ni all iaith fodoli heb bobl i'w siarad ac ni all unrhyw gymuned weithredu'n ystyrlon heb iaith. Yn y gyfrol hon edrychir ar y berthynas rhwng y ddwy wedd holl bwysig ar fywyd dyn gan geisio darlunio'r effaith a gaiff cyfnewidiadau cymdeithasol ar barhad a ffyniant iaith. Edrychwn ar y Gymraeg dros bedair canrif ar ddeg gan geisio dangos sut y gall digwyddiadau unigol lunio tynged iaith, a sut y gall newid mewn ymagweddiad roi anadl einioes mewn sefyllfa a oedd yn bur anobeithiol. Y Gymraeg sydd dan y chwyddwydr, ond cymherir y sefyllfa yng Nghymru â'r hyn a geir mewn gwledydd eraill. Dadleuir mai'r rhan bwysicaf ym mhroses adfer iaith yw deall pa ffactorau sy'n achosi erydiad. Yna gellir gweithredu polisi iaith a ddylai ddwyn ffrwyth, gan sicrhau 'hir oes i'r iaith'.
I'r Lleuad a Thu Hwnt – Eirwen Gwynn
Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn wreiddiol yn 1964 pan oedd y ras i'r lleuad yn ei anterth. Ceir ynddo hanes yr ras fawr rhwng Unol Daleithiau America a Rwsia ac amlinelliad hefyd o'r gweithgareddau eraill yn y gofod. Fe'i ysgrifennwyd er mwyn esbonio egwyddorion y maes i'r Cymro cyffredin heb gefndir gwyddonol.
Gwenallt: Bardd Crefyddol – J. E. Meredith
Darlith a draddodwyd yn wreiddiol ym Mhrifysgol Caerdydd yn Mehefin 1970 gan J. E. Meredith yn ystyried dylanwad Cristnogaeth yng ngherddi Gwenallt. Mae ysgrif nodedig Gwenallt, Credaf, o'r gyfrol o'r un enw wedi ei hailgyhoeddi yma hefyd.
Gwaith Pantycelyn: Detholiad – Gomer M. Roberts (gol.)
Detholiad o gant o emynau William Williams Pantycelyn ynghyd â dwy farwnad, dyfyniadau o gerddi hirach a darnau o ryddiaith. Ceir yma hefyd ragarweiniad i fywyd Pantycelyn, y diwygiad Methodistaidd a rôl oddi mewn iddo. Trafodir arbenigedd ei waith yn gryno yn ogystal.
Gwaedd yng Nghymru – J. R. Jones
Casgliad o ysgrifau gan yr athronydd J. R. Jones yn trafod parhad yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig yn wyneb Prydeiniad y gymdeithas, yr Arwisgiad a dadfeiliad crefydd.
Gafael Mewn Gramadeg – David Thorne
Astudiaeth gyfoes o ramadeg y Gymraeg sy'n amcanu i esbonio ei hanfodion. Y mae'r gyfrol yn cynnwys trafodaeth ar gywair ac amrywiaeth eang o arddulliau llafar ac ysgrifenedig. Rhoir nifer o enghreifftiau o sut y mae syniadau gramadegol yn berthnasol i'r iaith a welir ac a glywir o'n cwmpas bob dydd.
Dinasyddiaeth Bur ac Areithiau Eraill – Henry Jones
Tair darlith a draddodwyd i chwarelwyr gogledd Cymru gan Syr Henry Jones ar droad yr ugeinfed ganrif, yn trafod hawliau'r gweithiwr a'i le mewn cymdeithas.
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Athronyddu am Grefydd – Dewi Z. Phillips
Casgliad o ysgrifau ar athroniaeth crefydd yn ymateb i ddisgwrs y cyfnod ar ystyr bodolaeth ac argyfwng cymdeithas sy'n ymwrthod â chrefydd gristnogol a bodolaeth Duw. Trafodir natur yr iaith a geir mewn credoau crefyddol a'n dealltwriaeth ohoni a thrafodir theorïau ynglŷn â thragwyddoldeb.
Be Ddywedodd Gerallt Gymro am ei Gyfoeswyr – Huw Pryce a Glenda Carr
Roedd Gerallt Gymro yn sylwebydd craff ac yn awdur dysgedig a thoreithiog a ysgrifennodd ar amrywiaeth o bynciau. Dyma gasgliad difyr o sylwadau ganddo am ei gyfoeswyr sy'n darlunio'r cyfnod ac yn dweud llawer am Gerallt ei hun yn ogystal.
Be Ddywedodd Marx II – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.