Drama wedi'i lleoli yn ardal y Tymbl ger Llanelli sy'n dilyn hynt a helynt tair chwaer sy'n perfformio mewn gr?p canu gwlad. Mae Sharon, Lyn a Janet yn defnyddio'r grwp fel dihangfa o'u bywyd beunyddiol ac mae'r gyfres yn olrhain eu problemau, eu breuddwydion, eu rhywioldeb, eu caru a'u cecru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Talcen Caled
Cyfres deledu sy’n olrhain hanes teulu Les a Gloria yn wyneb caledi wrth i’r cwmni y mae Les yn gweithio iddi fynd yn fethdalwyr. Dilynir ef wrth iddo chwilio am waith, a cheisio cael dau pen linyn ynghyd. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Teulu Bach Nantoer (2013)
Teulu Bach Nantoer gan Moelona yw'r nofel fwyaf poblogaidd a ysgrifenwyd erioed i blant yn y Gymraeg. Ganrif ers ei chyhoeddi, gyda'r stori bron yn anghofiedig, mae Beti George yn mynd ar drywydd yr awdur, y dylanwadau oedd arni a'r effaith gafodd hi a'i nofel eiconig ar genhedlaethau o blant. Drwy gyfres o ddramodigau'n seiliedig ar y llyfr, bydd cyfle i genhedlaeth newydd ddod i adnabod y llyfr am y tro cyntaf ac i'r rai ddarllenodd y nofel yn blant, fwynhau'r hanes unwaith yn rhagor. Unigryw, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Theatr Genedlaethol Cymru (2006)
Cyfres ddogfen newydd sy’n codi’r llen ar flynyddoedd cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Theatr, Perfformiad a Thechnoleg 2015/16
Dyma recordiadau sain o gynhadledd gydweithredol Astudiaethau Theatr a Drama 2015/2016. Cynhaliwyd y gynhadledd ar y 29ain a'r 30ain o Ionawr 2016 yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Tipyn o Stad (2002)
Cyfres ddrama yn dilyn hynt a helynt trigolion stad Maes Menai. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Treflan (Cyfres 1)
Drama sy’n dilyn hynt a helynt cymeriadau Daniel Owen yw'r ddrama gyfres hon. Yn ôl Manon Eames, yr awdures, drama sy’n uno tair o nofelau Daniel Owen yw hon sef Enoc Huws, Rhys Lewis a Y Dreflan. Y mae yma gyfle i gael golwg fanwl ar fywyd y capel a’r eglwys yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg drwy lygaid Mari Lewis a’i theulu, ond hefyd y mae cyfle i gyfochri hynny gyda bywyd mwy seciwlar aleodau eraill o'r gymdeithas er enghriafft Wil Bryan y teulu Bartley a Chapten Trefor. Gwelwn y stori y datblygu dros ddegawdau wrth i Rhys Lewis ac Enoc Huws dyfu o fod yn fabanod i fod yn ddynion. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tylluan Wen (1998)
Cantores werin yw Martha sy'n dod yn ôl i ganol harddwch gerwin ei hardal enedigol yng Ngogledd Cymru er mwyn recordio albwm newydd. Ond mae darganfod pwy sy'n byw yn hen gartref y teulu yn ailagor hen glwyf ac yn ei gyrru hi ar berwyl mwy sinistr o lawer. Addasiad o Y Dylluan Wen, a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn, 1995 i'w hawdures, Angharad Jones. Nant, 1998. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tywyll Heno (1986)
Addasiad o un o glasuron Kate Roberts. Gyda Maureen Rhys a John Ogwen. Gwraig i weinidog yw Bet, gwraig gonest sydd ers blynyddoedd wedi anwybyddu'r rhagrith sydd o'i chwmpas. Yn y diwedd, mae ei ffydd Cristnogol yn pallu gan arwain at salwch meddwl. Ffilmiau Eryri, 1986. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Un Briodas (1990)
Gan John Gwilym Jones. Ffilm o'r ddrama sy'n trin a thrafod dirywiad mewn un briodas. Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Un Nos Ola' Leuad (1991)
Addasiad ffilm gan Endaf Emlyn a'r diweddar Gwenlyn Parry o nofel Caradog Prichard. Wedi'i lleoli yn ardal y chwareli yn Arfon, mae 'r ffilm yn ymdriniaeth gref o rai o themâu mwyaf egr bywyd: marwolaeth, diniweidrwydd coll a gwallgofrwydd. Wrth i'r dyn di-enw (Dyfan Roberts) grwydro bro ei febyd yn ystod 'un nos ola leuad' y teitl cyfyd atgofion arswydus ambrofiadau ysgeler ac anesboniadwy'r gorffennol. Stori hen ŵr am ei blentyndod tra'n byw gyda'i fam sydd yn weddw ac yn golchi dillad i ddod â dau ben llinyn ynghyd. Mae harddwch a hagrwch yn rhan o berthynas y fam a'i mab. Er iddi fod yn hael ei chariad tuag ato, eto y mae bwlch rhyngddynt, agendor a erys er gwaetha holl ymdrechion y llanc i'w pontio. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Bom Atom ar y Llwyfan – Ioan Miles Williams
Astudiaeth o sut aeth dau ddramodydd ati i drafod dyfodiad arfau niwclear – sef Saunders Lewis, mewn drama anorffenedig ganddo, a Friedrich Dürrenmatt, yn ei ddrama Die Physiker (Y Ffisegwyr).