Y mae Fsefolod Meyerhold yn ffigwr canolog yn hanes datblygiad theatr yn yr ugeinfed ganrif. Datblygodd theatr gorfforol a gwerinol oedd yn chwyldroi confensiynau. Yn y gyfrol hon ceir detholiad o lyfr Meyerhold, Am y Theatr, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.
Be Ddywedodd Meyerhold – W. Gareth Jones a Mona Morris
Be Ddywedodd Weber – Ellis Roberts a Robat Powel
Detholiad o waith Max Weber yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Weber oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern a llywiodd ei ddull gweithio newydd 'Verstehen', sef dull deongliadol neu gyfranogol o astudio ffenomena gymdeithasol, y maes. Rhoddodd Weber bwyslais ar ddeall yr ystyr a phwrpas mae unigolyn yn ei roi i'w weithredoedd ei hun.
Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y G18 – E. G. Millward (gol.)
Blodeugerdd o gerddi rhydd o'r ddeunawfed ganrif wedi eu cyflwyno mewn rhagymadrodd, eu dethol a'u golygu gan E. G. Millward. Ceir hefyd ymdriniaeth ar ddechrau'r gyfrol â'r tonau Cymreig gan Phillis Kinney. Mae'r cerddi yn y gyfrol hon, sy'n rhan o gyfres Cerddi'r Canrifoedd, Barddas, yn ddarlun o ganrif amrywiol a welodd greu emynau Pantycelyn yn ogystal â phenillion megis: 'Haws yw codi'r môr â llwy, A'i roi oll mewn plisgyn wy, Nag yw troi fy meddwl i, Anwylyd fach, oddi wrthyt ti.'
Crefft y Stori Fer – Saunders Lewis (gol.)
Casgliad o sgyrsiau rhwng Saunders Lewis ac awduron straeon byrion yn 1947-8, cyfnod pwysig yn natblygiad y stori fer Gymraeg. Ceir darlun drwy'r sgyrsio o fywydau'r llenorion, y gymdeithas oedd yn ysbrydoliaeth i'w llên a'r hyn a'u hysgogodd i ysgrifennu.
Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd Cymreig, J. R. Jones am berthynas dirywiad addoli Cristnogol yng Nghymru â chrebachiad hunaniaeth y Cymry a'r iaith Gymraeg.
Cymru a'r Rhyfel Canmlynedd – A. D. Carr
Cyflwyniad i'r Rhyfel Canmlynedd (1337-1453) a'i berthynas â Chymru a geir yn y gyfrol hon . Roedd gan filwyr o Gymru rannau canolog yn y rhyfel hwn rhwng Lloegr a Ffrainc, a hynny ar y ddwy ochr. Ystyrir hefyd effeithiau'r Rhyfel Canmlynedd ar Gymru ei hun.
Blodeugerdd Barddas o Ganu Caeth y G18 – A. Cynfael Lake (gol.)
Blodeugerdd yng nghyfres Cerddi'r Canrifoedd, Barddas, yn casglu ynghyd am y tro cyntaf weithiau enwogion fel Lewis Morris, Ieuan Fardd a Goronwy Owen. Nid yw llawer o'r cerddi sydd yn y casgliad wedi gweld golau dydd er pan gyhoeddwyd Diddanwch Teuluaidd yn 1763 gan Hugh Jones o Langwm.
A Raid i'r Iaith ein Gwahanu – J. R. Jones
Araith o'r 1960au gan yr athronydd Cymreig J. R. Jones, am yr hollt rhwng y rhai sy'n siarad Cymraeg a'r di-Gymraeg yng Nghymru a sut mae cau'r bwlch heb danseilio'r iaith Gymraeg ei hun. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol
Areithiau Eisteddfod Aberafan – J. R. Jones (gol.)
Casgliad o bedair araith gan J. R. Jones, Siôn Daniel, Emyr Llywelyn ac Alwyn D. Rees a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan ym 1966 yn trafod ymgyrchu dros y Gymraeg a lle gweithredu anghyfreithlon yn dilyn ethol aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans.
Ar Gwestiynau Rhyfel a Heddwch – E. T. John
Dyfyniadau o areithiau ac erthyglau gan E. T. John, Aelod Seneddol dwyrain Sir Ddinbych yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cenedlaetholwr Cymreig a heddychwr. Roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol hyd 1918, pan ymunodd â'r Blaid Lafur. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1918.
Anufudd-dod Dinesig – Meredydd Evans
Darlith yn trafod amodau moesol gweithredu anghyfreithlon, neu anufudd-dod dinesig, dros yr iaith Gymraeg. Dyma Ddarlith Goffa J. R. Jones, 1993.
Ac Onide – J. R. Jones
Yma, mae J. R. Jones yn ymateb i argyfyngau dynol y ceir sôn amdanynt yn y Beibl ac i'r argyfyngau dynol yn ein hoes ni a gynhyrfodd feddylwyr tebyg i Wittgenstein, Simone Weil a Tillich. Ceir hefyd ffeil sain o J. R. Jones ei hun yn areithio. Teitl yr araith yw 'I Ti y Perthyn ei Ollwng', sef Rhan Tri: 3 o Ac Onide.