Rhaglen ddogfen yn edrych ar hanes y chwe dyn a ddanfonwyd i garchar ym 1969 am fod yn aelodau o gorff FWA [Free Wales Army]. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
I'r Gad: Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (2003)
Yn y gyfres hon bydd yr Athro R. Merfyn Jones yn ein tywys drwy hanes deugain mlynedd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, o 1963 hyd 2003. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Iwan Llwyd: 'Rhwng Gwên Nos Sadwrn a Gwg y Sul' (2014)
Bywyd a gwaith y diweddar fardd Iwan Llwyd trwy gyfweliadau a ffilm archif unigryw o'r 90au. Yn cymryd rhan bydd Myrddin ap Dafydd, Hywel Bebb, Manon Wynn Davies, Iwan Bala, Geraint Lovgreen a brawd Iwan, yr actor Llion Williams. Bydd ffilm o Iwan yn cyflwyno ac yn darllen ei farddoniaeth. Teleg, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Llais y Werin: T. E. Nicholas – Niclas y Glais (1989)
Carcharwyd T. E. Nicholas (1879-1971) oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr cyn troi'n gomiwnydd o ddeintydd. Deil i greu cynnwrf yng Nghymru heddiw. Gwyn Alf Williams sy'n olhrain ei hanes. Teliesyn, 1989. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Llefydd Sanctaidd (2013)
Taith o gwmpas rhai o lefydd mwyaf sanctaidd Ynysoedd Prydain yng nghwmni Ifor ap Glyn. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Lleisiau Patagonia 1902 (2015)
Un o'r ergydion mwyaf i'r Wladfa ym Mhatagonia oedd ymadawiad 234 o'r trigolion ym 1902. Roedd y llifogydd difrifol, diffyg tir, a'r addysgu milwrol cynyddol wedi'u llethu ac roedden nhw am gael tir i ffermio. Gadawodd 234 am Ganada i sefydlu gwladfa newydd. 70 mlynedd yn ddiweddarach, ym 1974, wrth chwilio am Gymry yng Nghanada, daeth Glenys James ar draws y Patagoniaid hyn yn Saskatchewan a recordio eu straeon. Yn y rhaglen hon cawn glywed, am y tro cyntaf, eu lleisiau'n adrodd hanes gadael Patagonia, eu tynged yng Nghanada, ac a lwyddon nhw i greu gwladfa Gymraeg newydd. Unigryw, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Lleisiau'r Rhyfel Mawr (2008)
Prin oedd y rhai ym 1914 a gredai y gallai rhyfel yn Ewrop barhau mwy nag ychydig fisoedd. Eto, erbyn 1918 roedd yn agos at dri chan mil o fechgyn Cymru wedi ymladd yn Ewrop a thu hwnt – ac un o bob saith ddim yn dod gartref. Naw deg naw o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae lleisiau’r milwyr a’r dinesyddion a welodd erchylldra’r Rhyfel Mawr yn fyw o hyd yn y cyfoeth o lythyrau, dyddiaduron ac erthyglau papur newydd a ysgrifennwyd ar y pryd. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Places of Wales Website
Places of Wales is a website where you can search and discover the items or related information for the collections of The National Library of Wales on a geographic interface.
Darlith Gethin Matthews: 'Ffaith a Ffuglen - Cyn-filwyr a'u hatgofion
Darlith gan Dr Gethin Matthews, Prifysgol Abertawe, ar y testun 'Ffaith a Ffuglen - Cyn-filwyr a'u hatgofion'. Traddodwyd y ddarlith fel rhan o gynhadledd 'Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru' dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Ionawr 2014.
Dechreuadau Cyfieithu Gwleidyddol yng Nghymru yn yr Oes Fodern Gynnar
Darlith gan Dr Marion Löffler, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a gynhaliwyd ar ddydd Mercher, 22 Hydref 2014, ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Modiwl Dehongli'r Gorffennol (HCG2011)
Cyflwyniadau i gyd-fynd gyda'r modiwl prifysgol Dehongli'r Gorffennol (HCG2011). Bydd angen mewngofnodi i gael mynediad i'r cyflwyniadau isod. Rhestr y cyflwyniadau: Cyflwyniad i Hanes Marcsaidd (Yr Athro Gareth Williams) Cyfraniad Keith Thomas (Yr Athro Gareth Williams) Datblygiadau a phroblemau gyda dehongliadau Marcsaidd, a cyfraniadau Christopher Hill a Raymond Williams (Yr Athro Gareth Williams) Dehongliadau Marcsaidd o Galileo a William Harvey (Yr Athro Gareth Williams) Cymdeithas a diwylliant yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed Ganrif (Yr Athro Gareth Williams) Ysgrifennu Hanes Cymru (Dr John Davies) Hanes Marcsiadd (Dr Martin Wright) Ysgrifennu Hanes Cymru (Yr Athro Prys Morgan)
Dilyn Ddoe: Eryr Mewn Coler Gron (1997)
Drama-ddogfen sy'n olrhain y gwrthdaro rhwng dau safbwynt gwahanol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Un o'r personau mwyaf amlwg yn yr ymgyrch recrwitio ar gyfer y fyddin Gymreig oedd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn, ond roedd y newyddiadurwr ifanc E. Morgan Humphreys yn anniddig ynglyn a'r orfodaeth filwrol a ddaeth i rym ym 1917. Elidir, 1997. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.