Saethu dwsin yn farw a carcharu 1,800 o ddynion. Dyna oedd ymateb llywodraeth Prydain i wrthryfel y pasg 1916 yn Iwerddon. Daeth y rhan fwyaf i Gymru, i bentref Frongoch ger y Bala. Rhan y carchar hwn yn y frwydr am ryddid Iwerddon yw pwnc y rhaglen. Yn cael eu cyfweld y mae Ambrose Bunrs, Dulyn; William Mullins, Tralee Kerry; Joni Roberts; Dewi Williams (hanesydd) a Morris Roberts (mab Bob Roberts, Tair Felin). Ffilmiau'r Nant, 1988. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Frongoch: Prifysgol Chwyldro (1988)
Gerallt (2013)
Rhaglen ddogfen onest a threiddgar o'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen sy'n codi'r llen ar gymeriad preifat ac enigmatig a ysgrifennodd rhai o gerddi enwocaf Cymru ac a fu'n Feuryn Talwrn y Beirdd am 30 mlynedd. Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig, mynediad ecsgliwsif i'w gartref ynghyd â chyfweliadau gydag aelodau o'i deulu, mae'r ffilm-ddogfen hon yn cyflwyno ochr arall i'r persona cyhoeddus ac yn datgelu ei angerdd, ei ofnau a'i ellyllon. Gyda darlleniadau o rai o'i gerddi pwysicaf, mae'r rhaglen hon yn treiddio'n ddyfnach i'r themâu sydd wedi cydio ynddo gydol ei oes. Cwmni Da, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwaed Gwirion (2014)
Gwaed Gwirion gan Emyr Jones yw'r brif nofel yn y Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers ei chyhoeddi ym 1965, mae wedi ennill clod gan feirniaid a gwybodusion fel campwaith a chlasur a chafodd y gwaith ei gydnabod gan yr Academi Gymreig gan ennill gwobr Griffith John Williams am nofel Gymraeg deilyngaf y flwyddyn. Yn y rhaglen ddogfen hon, cawn hanes a chefndir y gyfrol a'i hawdur wrth i'r Athro Gerwyn Wiliams ein tywys ar daith gan ddilyn y cymeriadau trwy feysydd brwydro Fflandrys a Ffrainc. Bydd yn taflu goleuni newydd ar amgylchiadau creu'r gwaith ac yn datgelu gwybodaeth amdani a fydd yn creu cryn gynnwrf yn y byd llenyddol yng Nghymru. Ffranc, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwaedd yng Nghymru – J. R. Jones
Casgliad o ysgrifau gan yr athronydd J. R. Jones yn trafod parhad yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig yn wyneb Prydeiniad y gymdeithas, yr Arwisgiad a dadfeiliad crefydd.
Atgofion Gohebydd o Gymro (1983)
Rhaglen am David Raymond, yn enedigol o Gydweli, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mharis. Gohebydd tramor ydoedd, yn gweithio i'r Daily Mail, Raynolds News a'r Daily Mirror. Glansevin, 1983.
Be Ddywedodd Gerallt Gymro am ei Gyfoeswyr – Huw Pryce a Glenda Carr
Roedd Gerallt Gymro yn sylwebydd craff ac yn awdur dysgedig a thoreithiog a ysgrifennodd ar amrywiaeth o bynciau. Dyma gasgliad difyr o sylwadau ganddo am ei gyfoeswyr sy'n darlunio'r cyfnod ac yn dweud llawer am Gerallt ei hun yn ogystal.
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Marx II – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Weber – Ellis Roberts a Robat Powel
Detholiad o waith Max Weber yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Weber oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern a llywiodd ei ddull gweithio newydd 'Verstehen', sef dull deongliadol neu gyfranogol o astudio ffenomena gymdeithasol, y maes. Rhoddodd Weber bwyslais ar ddeall yr ystyr a phwrpas mae unigolyn yn ei roi i'w weithredoedd ei hun.
Brwydr Llangyndeyrn (2013)
Rhaglen arbennig a ddangoswyd gyntaf ym mis Hydref 2013 i nodi 50 mlynedd ers ymgyrch lwyddiannus i atal Cyngor Abertawe rhag boddi Cwm Gwendraeth Fach a'r ffermydd cyfagos. Yr actores Sharon Morgan fu'n teithio yn ôl i fro ei mebyd i ddarganfod mwy am hanes cudd Brwydr Llangyndeyrn. Brwydr gan y gymuned oedd hon, a chawn gyfweliadau â'r ffermwyr a chwaraeodd rôl bwysig yn ogystal ag aelodau o'r gymuned ehangach. Wrth glywed yr hanes, bydd Sharon yn holi ac yn dadansoddi pam yr ydym ni fel cenedl yn cofio ein methiannau fel boddi Cwm Celyn yn hytrach na chanolbwyntio ar ein llwyddiannau. Tinopolis, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byd o Liw: Y Rhyfel Mawr (2008)
Yn y rhaglen hon a fydd yn cofio'r Rhyfel Mawr 90 mlynedd ar ôl iddi orffen, mae Osi yn edrych ar gynfas eang o fudiadau celf y cyfnod a ddarluniodd ryfel mewn ffordd gwbl newydd a chwyldroadol. Cyn y Rhyfel Mawr, roedd arlunwyr yn dueddol o ramantu rhyfeloedd a milwyr trwy ddarluniau a oedd yn aml iawn wedi'u comisiynu.Ond mae arlunwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn dangos dioddefaint a chreulondeb rhyfel mewn ffyrdd uniongyrchol a blaengar. Fe ddylanwadodd y rhyfel yn drwm ar gynnwys lluniau. Mae'r rhaglen yn dangos sut y gwnaeth yr arlunwyr yma ddarlunio rhyfel fel rhywbeth creulon ac annynol er gwaethaf pwysau o lywodraethau gwledydd fel Prydain, Ffrainc a'r Almaen i arlunwyr bortreadu rhyfel fel rhywbeth nobl, aruchel i hybu propaganda rhyfel. Gan ffilmio ar feysydd y gad yn Ffrainc a Fflandrys, cawn weld sut y gwnaeth profiadau tywyll rhyfel ddylanwadu ar arlunwyr Ewropeaidd fel Otto Dix, Picasso, Stanley Spencer, David Jones a Frank Brangwyn. Zip TV, 2008. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bywyd Coll Lloyd George (1996)
Rhaglen am un o Gymry mwyaf dylanwadol y ganrif, pensaer y wladwriaeth les, a Phrif Weinidog Prydain Fawr. Yn ôl A. J. P. Taylor, Lloyd George oedd arweinydd mwya' Prydain ers Oliver Cromwell. Mae'r rhaglen hefyd yn sôn am ddarganfod ffilm golledig am fywyd y Prif Weinidog hyd at 1918. Dangosir darnau o'r ffilm hwnnw yn y rhaglen hon. Teliesyn, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.