Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan y Porth Adnoddau (www.porth.ac.uk). Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rydym yn dymuno i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan a’r adnoddau sy’n cael eu rhannu arni, mor hwylus â phosib yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Datganiad cydymffurfio

Mae Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) yn galluogi datblygwyr a darparwyr gwefannau i ddatblygu cynnwys sy’n fwy hygyrch i bobl ag anableddau neu anghenion amrywiol.   

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn anelu at gydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1. (WCAG 2.1). Serch hynny, rydym yn ymwybodol nad yw pob adnodd sy’n cael ei rannu ar wefan y Porth yn cyrraedd y safonau disgwyliedig  (gweler datganiadau penodol am yr adnoddau islaw).

Mae gwefan www.porth.ac.uk felly yn cydymffurfio’n rhannol â WCAG 2.1 lefel AA. Mae hyn yn golygu nad yw rhannau o’r cynnwys yn cydymffurfio’n llawn â’r safonau hygyrchedd.

Defnyddio’r wefan

Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon ynghyd â’r adnoddau cysylltiedig. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

•    Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio offer yn y porwr
•    Chwyddo'r testun hyd at 300% heb iddo lithro oddi ar y sgrin
•    Llywio’r  rhan fwyaf o’r wefan trwy ddefnyddio’r bysellfwrdd
•    Llywio’r  rhan fwyaf o’r wefan trwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
•    Gwrando  ar y rhan fwyaf o’r wefan trwy ddefnyddio darllenydd sgrîn

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan yn gwbl hygyrch:

•    Mae testun yn ymddangos ar ddelweddau’r adnoddau ond rydym yn darparu testun amgen i gyd-fynd â phob un.
•    Nid yw cyferbyniad lliw pob eicon o hyd yn ddigonol.
•    Nid yw rhannau o gynnwys o fewn pecynnau SCORM yn cydymffurfio’n llawn e.e. ceir troslais heb gapsiynau ar adegau.
•    Cynnwys hanesyddol – lle mae’r cynnwys yn berthnasol o hyd ac yn werth i’w rannu ond gwyddom nad yw’r fformat efallai yn hollol hygyrch bob tro.

Hygyrchedd Adnoddau

Mae adnoddau sy’n cael eu rhannu ar y wefan hon yn cael eu creu gan ystod eang o gyfranogwyr.  Mae’r adnoddau yn disgyn i’r categorïau canlynol:

•   Adnoddau wedi eu comisiynu’n uniongyrchol gan y Coleg Cymraeg

Wrth gaffael cwmnïau/unigolion allanol i greu adnoddau penodol ar ein rhan, rydym ni’n gosod ein disgwyliadau o ran cydymffurfio ag WCAG 2.1 o fewn ein cytundebau. Pan nad oes modd creu darnau o gynnwys digidol yn hollol hygyrch, rydym yn ceisio mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu fersiynau amgen o’r cynnwys e.e. fersiwn Word hygyrch o’r testun.

•  Adnoddau sydd wedi eu cyllido gan y Coleg e.e. drwy gronfa grantiau bach

Mae’r Coleg yn ariannu nifer o brosiectau i gyfoethogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn prifysgolion,  colegau a darparwyr prentisiaethau. Wrth gefnogi ceisiadau sy’n arwain at adnoddau digidol, mae’r Coleg yn nodi’n glir y cyfrifoldeb sydd arnynt i greu adnoddau sy’n cydymffurfio ag WCAG 2.1 Lefel AA. 

•  Adnoddau/gwefannau sefydliadau a chwmnïau allanol

Ar adegau, rydym yn rhannu dolenni at gynnwys neu wefannau gan sefydliadau/gwmnïau allanol. Fel arfer, rydym wedi derbyn cais gan ddarlithydd neu arbenigwr pwnc i gynnwys y dolenni ar ein gwefan. Does gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddim rheolaeth dros y cynnwys hwn.  Os ydych yn dod ar draws unrhyw anawsterau, gallwch roi gwybod i ni fel bod modd i ni eu hysbysebu ohonynt.

Cyfyngiadau

Er gwaethaf ein hymdrechion gorau i sicrhau hygyrchedd ein gwefan ac adnoddau e-ddysgu cysylltiedig, efallai y bydd rhai cyfyngiadau. Ceir disgrifiad islaw o gyfyngiadau hysbys. Cysylltwch â ni os gwelwch rywbeth nad yw wedi'i restru isod.

Cyfyngiadau hygyrchedd hysbys:

•    Fideos byr heb gapsiynau
•    Trosleisio heb gapsiynau o fewn pecynnau rhyngweithiol
•    Hen ddogfennau Word neu PDF anhygyrch
•    Adnoddau gan sefydliadau eraill

Baich anghymesur

•    Recordiadau o sesiynau neu weithdai byw a gynhaliwyd ar lein. Rydym wedi asesu’r gost sy’n gysylltiedig â darparu capsiynau ar gyfer recordiadau o’r fath ac wedi penderfynu y byddai hyn yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.
•    Adnoddau hanesyddol. Bydd nifer o achosion o adnoddau a ddatblygwyd cyn i’r Coleg ymrwymo i anelu at gyrraedd safon AA WCAG 2.1 wrth ddatblygu ac ariannu adnoddau. Rydym yn ymwybodol o’r diffygion ac wedi penderfynu y byddai diweddaru’r holl gynnwys hanesyddol yn faich anghymesur.​​​​​​​

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Wrth greu unrhyw gynnwys neu adnodd o’r newydd, mae’r Coleg Cymraeg wedi ymrwymo i’w ddatblygu mewn fformat sydd mor hygyrch â phosib o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Ar gyfer y mathau o gyfyngiadau sydd wedi eu nodi uchod, mae modd gwneud cais am fersiynau amgen.

Gallwch ein hysbysu ni o unrhyw anawsterau neu wneud cais am fersiynau amgen trwy gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk.

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.