Gwaed Gwirion gan Emyr Jones yw'r brif nofel yn y Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers ei chyhoeddi ym 1965, mae wedi ennill clod gan feirniaid a gwybodusion fel campwaith a chlasur a chafodd y gwaith ei gydnabod gan yr Academi Gymreig gan ennill gwobr Griffith John Williams am nofel Gymraeg deilyngaf y flwyddyn. Yn y rhaglen ddogfen hon, cawn hanes a chefndir y gyfrol a'i hawdur wrth i'r Athro Gerwyn Wiliams ein tywys ar daith gan ddilyn y cymeriadau trwy feysydd brwydro Fflandrys a Ffrainc. Bydd yn taflu goleuni newydd ar amgylchiadau creu'r gwaith ac yn datgelu gwybodaeth amdani a fydd yn creu cryn gynnwrf yn y byd llenyddol yng Nghymru. Ffranc, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Beirdd Cymru: Y Stori (2013)
O Drefaldwyn i Fwdapest, mae'r bardd Twm Morys yn olrhain hanes cerdd y mae pob plentyn Hwngaraidd yn medru ei hadrodd ar gof; cerdd sy'n symbolaeth gref o ryddid i drigolion Hwngari - ond cerdd sydd â chysylltiad Cymreig. Twm Morys ei hun sydd wedi trosi'r gerdd i'r Gymraeg ac mae Karl Jenkins wedi gosod y gerdd i gerddoriaeth. Rondo, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Blodeugerdd Barddas o Ganu Caeth y G18 – A. Cynfael Lake (gol.)
Blodeugerdd yng nghyfres Cerddi'r Canrifoedd, Barddas, yn casglu ynghyd am y tro cyntaf weithiau enwogion fel Lewis Morris, Ieuan Fardd a Goronwy Owen. Nid yw llawer o'r cerddi sydd yn y casgliad wedi gweld golau dydd er pan gyhoeddwyd Diddanwch Teuluaidd yn 1763 gan Hugh Jones o Langwm.
Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y G18 – E. G. Millward (gol.)
Blodeugerdd o gerddi rhydd o'r ddeunawfed ganrif wedi eu cyflwyno mewn rhagymadrodd, eu dethol a'u golygu gan E. G. Millward. Ceir hefyd ymdriniaeth ar ddechrau'r gyfrol â'r tonau Cymreig gan Phillis Kinney. Mae'r cerddi yn y gyfrol hon, sy'n rhan o gyfres Cerddi'r Canrifoedd, Barddas, yn ddarlun o ganrif amrywiol a welodd greu emynau Pantycelyn yn ogystal â phenillion megis: 'Haws yw codi'r môr â llwy, A'i roi oll mewn plisgyn wy, Nag yw troi fy meddwl i, Anwylyd fach, oddi wrthyt ti.'
Blodeuwedd (1990)
Ffilm o'r ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis, wedi'i selio ar chwedl y Mabinogi am y ferch a wnaethpwyd allan o flodau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Branwen (1994)
Mae dau genedlaetholwr yn priodi - Branwen o Gymru a Kevin o Belfast - ond mae brawd Branwen, Mathonwy, yn filwr yn y fyddin Brydeinig. Mae'r gwrthdaro rhwng teyrngarwch gwleidyddol a theuluol yn tanio Branwen. Y Mabinogi yn dod i'r presennol ac yn bygwth y genhedlaeth newydd. Teliesyn, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byw Celwydd
Cyfres sy'n portreadu gwrthdaro rhwng newyddiadurwyr, ymgynghorwyr a gwleidyddion sy'n aelodau o bleidiau dychmygol ym Mae Caerdydd. Yn dilyn etholiadau, clymblaid sydd mewn grym, rhwng tair plaid sef Y Ceidwadwyr Newydd, Y Cenedlaetholwyr a'r Democratiaid gyda'r Sosialwyr yn wrthblaid. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Caerdydd (Cyfres 1) (2006)
Cyfres am griw o ffrindiau yn eu hugeiniau sy'n byw mewn fflatiau crand ym Mae Caerdydd. Dilyna’r gyfres y criw - Peter, Emyr, Osian, Ceri, Lea & Elen – wrth eu gwaith (amrywiol) bob dydd a’u bywydau personol, cyffrous, gyda’r nos. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cameleon (1996)
Ffilm gan Ceri Sherlock sy'n adrodd hanes ffoadur o'r Ail Ryfel Byd sy'n dianc rhag erchylldra'r rhyfel yn ôl i'w gynefin. Mae'r ffilm yn ymdreiddio i isymwybod y ffoadur ac yn portreadu clawstroffobia ac ofn y cymeriad wrth iddo ymdopi a byw mewn caethiwed cwbl wahanol i'r hyn y dihangodd oddi wrtho. Elidir, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Chwilio am Mary Vaughan Jones (2013)
Mary Vaughan Jones oedd un o awduron llenyddiaeth plant mwyaf llwyddiannus yr iaith Gymraeg. Creodd gymeriadau cofiadwy wnaeth symbylu cenhedlaethau o blant i ddysgu a mwynhau darllen. Yr enwocaf ohonynt wrth gwrs oedd Sali Mali. Bu farw Mary Vaughan Jones ym 1983 ac o ganlyniad ni fu iddi weld y llwyddiant rhyngwladol a ddaeth i ran Sali Mali drwy gyfrwng rhaglenni teledu ar S4C. Mae pawb yn adnabod ei chymeriadau, ond pwy oedd Mary Vaughan Jones? Lumedia, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cofio Saunders Lewis (1985)
Gwyn Erfyl yn cyflwyno rhaglen deyrnged i Saunders Lewis. Ar 14 Gorffennaf 1984 bu darlith a chyflwyno cerfluniau i'r Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol. Detholiad o'r noson yw'r rhaglen yma. Ceir cyfweliadau gyda Syr Alun Talfan Davies, Dewi Watcyn Powell, Dr Geraint Gruffydd, Dr Raymond Edwards, Dr Meredydd Evans, Canon Allchin, Ivor Roberts Jones, Emyr Humphreys, yr Esgob Mullins, Emrys James, Syr Alun Oldfield Davies, Maureen Rhys, John Ogwen a Dr Prys Morgan. ITV Cymru, 1985. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cofio T. Llew (2009)
Rhaglen deyrnged i'r awdur a'r bardd toreithiog a fu farw'n ddiweddar, gan gynnwys cyfweliad arbennig gyda T. Llew Jones o 2002. Myrddin ap Dafydd gafodd y fraint o'i holi mewn cyfweliad estynedig a oedd yn ymdrin a nifer o agweddau o'i fywyd a'i waith, ac mi fydd hefyd yn un o'r rhai a fydd yn dadansoddi cyfraniad T. Llew Jones i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Byddwn hefyd yn dysgu mwy am yr addasiadau ffilm a theledu o'i waith a'i ddylanwad ar blant Cymru heddiw. Cwmni Da, 2009. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.