Yn y casgliad hwn ceir adnoddau sy'n cefnogi'r astudiaeth o hanes yr Oesoedd Canol. Mae'r adnoddau'n deillio o brosiect a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu deunyddiau dysgu cyfrwng Cymraeg safonol yn rhoi cyflwyniadau i bynciau a themâu sylfaenol yn hanes yr Oesoedd Canol.
Medieval History Resources
Hir Oes i'r Iaith – Robert Owen Jones
Mae iaith a chymdeithaseg yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Ni all iaith fodoli heb bobl i'w siarad ac ni all unrhyw gymuned weithredu'n ystyrlon heb iaith. Yn y gyfrol hon edrychir ar y berthynas rhwng y ddwy wedd holl bwysig ar fywyd dyn gan geisio darlunio'r effaith a gaiff cyfnewidiadau cymdeithasol ar barhad a ffyniant iaith. Edrychwn ar y Gymraeg dros bedair canrif ar ddeg gan geisio dangos sut y gall digwyddiadau unigol lunio tynged iaith, a sut y gall newid mewn ymagweddiad roi anadl einioes mewn sefyllfa a oedd yn bur anobeithiol. Y Gymraeg sydd dan y chwyddwydr, ond cymherir y sefyllfa yng Nghymru â'r hyn a geir mewn gwledydd eraill. Dadleuir mai'r rhan bwysicaf ym mhroses adfer iaith yw deall pa ffactorau sy'n achosi erydiad. Yna gellir gweithredu polisi iaith a ddylai ddwyn ffrwyth, gan sicrhau 'hir oes i'r iaith'.
Iechyd a’r modelau biofeddygol a bioseicogymdeithasol
Cyfres o glipiau fideo sy'n cael eu defnyddio ar y modiwl Iechyd a’r modelau biofeddygol a bioseicogymdeithasol (MED16001), Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor.
I'r Lleuad a Thu Hwnt – Eirwen Gwynn
Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn wreiddiol yn 1964 pan oedd y ras i'r lleuad yn ei anterth. Ceir ynddo hanes yr ras fawr rhwng Unol Daleithiau America a Rwsia ac amlinelliad hefyd o'r gweithgareddau eraill yn y gofod. Fe'i ysgrifennwyd er mwyn esbonio egwyddorion y maes i'r Cymro cyffredin heb gefndir gwyddonol.
Llawlyfr Meistroli'r Gymraeg - Tudur Hallam
Cyfres o wersi i’w haddasu a’u defnyddio gan diwtoriaid a myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc gradd, gan yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe. Mae'n llawlyfr iaith ymarferol sydd yn rhoi pwyslais ar gyflawni tasgau ac ar ddysgu wrth wneud. Er hwylustod i diwtoriaid a myfyrwyr, gellir lawrlwytho PDF o bob uned drwy glicio ar y dolenni isod: Uned 1: Datganiad Personol Uned 2: Bwletin Newyddion Uned 3: Y Llawlyfr Uned 4: Y Trosiad Uned 5: Perswadio Uned 6: Dadansoddi Gwallau Uned 7: Treigladau a Gramadeg Uned 8: Gwerthuso ac Adolygu Uned 9: Datganiad i'r Wasg Uned 10: Perswadio, Eto Atodiadau Mae'r Llawlyfr yn cynnwys taflenni gwaith rhyngweithiol. Defnyddir blychau melyn ar gyfer y taflenni gwaith. Gellir llenwi rhai ohonynt ar sgrin drwy lalwrlwytho'r Llawlyfr ac agor y PDF gydag Adobe Acrobat Reader.
Darganfod Caerdydd – Huw Thomas
Mae'r llyfr hwn yn esbonio cefndir a chyd-destyn yr etifeddiaeth hanesyddol unigryw sydd wedi cynhyrchu'r Gaerdydd sy'n bodoli heddiw. Ffocws y llyfr ydy cynllunio a datblygiadau ffisegol y ddinas, er enghraifft, y trawsnewidiad ym Mae Caerdydd. Bydd y llyfr yn ddefnyddiol fel rhan o fodiwlau ar ddaearyddiaeth trefol ac adfywiad trefol, ac hefyd ar gyfer ymweliadau astudiaethol, lle gall y myfyrwyr dilyn Taith Gerdded Bae Caerdydd.
Darlith Flynyddol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg yn y De-ddwyrain
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg Gymraeg yn y De-ddwyrain gan Dylan Foster Evans. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau ar ddydd Mawrth 2 Awst 2016.
Darlith Gethin Matthews: 'Ffaith a Ffuglen - Cyn-filwyr a'u hatgofion
Darlith gan Dr Gethin Matthews, Prifysgol Abertawe, ar y testun 'Ffaith a Ffuglen - Cyn-filwyr a'u hatgofion'. Traddodwyd y ddarlith fel rhan o gynhadledd 'Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru' dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Ionawr 2014.
Dechreuadau Cyfieithu Gwleidyddol yng Nghymru yn yr Oes Fodern Gynnar
Darlith gan Dr Marion Löffler, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a gynhaliwyd ar ddydd Mercher, 22 Hydref 2014, ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dinasyddiaeth Bur ac Areithiau Eraill – Henry Jones
Tair darlith a draddodwyd i chwarelwyr gogledd Cymru gan Syr Henry Jones ar droad yr ugeinfed ganrif, yn trafod hawliau'r gweithiwr a'i le mewn cymdeithas.
Doctoriaid Yfory 2019
Sefydlwyd cynllun Doctoriaid Yfory mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ynghyd ag Ysgol Feddygol Caerdydd ac Ysgol Feddygol Abertawe gyda’r nod o gynyddu nifer y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n ymgeisio’n llwyddiannus ar gyfer llefydd ar gyrsiau meddygol yng Nghymru. Yn yr categori hwn, gellir darganfod cyflwyniadau ac adnoddau sy’n gysylltiedig â’r cynllun.
Dulliau Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Busnes, Rheolwyr ac Entrepreneuriaid
Cyhoeddwyd Dulliau Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Busnes, Rheolwyr ac Entrepreneuriaid gan Brifysgol De Cymru ac mae'n llyfr rhyngweithiol, aml-gyfrwng sy'n sail ar gyfer ymchwil academaidd ac ar gyfer defnydd ymarferol mewn amgylchedd busnes. I fanteisio'n llawn ar holl nodweddion rhyngweithiol y llyfr, dylid ei lawrlwytho o safle iBooks Store