Chwant a chariad, nwyd a naid, serch a siom, dialedd a diogi...yng Nghymru Fach. Addasiad o ddrama lwyfan yw Cymru Fach a berfformiwyd gan Sgript Cymru. Mae'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar y gymdeithas Gymreig. Mae'r ddrama wedi ei rhannu'n ddeg golygfa gyda phob un yn canolbwyntio ar ddau gymeriad (bachgen a merch) a'u perthynas â'i gilydd. Yn cynnwys iaith gref a noethni. Ffilmiau Boom Films, 2008. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cyfweliadau gyda Chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr
Cyfres o gyfweliadau gyda chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr allweddol ym maes y cyfryngau yng Nghymru: Aron Evans Endaf Emlyn John Hefin Naomi Jones Paul Jones Peter Edwards Sue Jeffries Gwawr Lloyd Rhodri Talfan Davies Sara Ogwen Williams Ed Thomas
Con Passionate (Cyfres 1) (2005)
Stori ddirgel gerddorol yw Con Passionate, plethiad o gerddoriaeth, hiwmor du a thrasiedi am griw o ddynion cyffredin, yn canu mewn côr cyffredin a’u harweinyddes newydd anghyffredin, Davina Roberts. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cameleon (1996)
Ffilm gan Ceri Sherlock sy'n adrodd hanes ffoadur o'r Ail Ryfel Byd sy'n dianc rhag erchylldra'r rhyfel yn ôl i'w gynefin. Mae'r ffilm yn ymdreiddio i isymwybod y ffoadur ac yn portreadu clawstroffobia ac ofn y cymeriad wrth iddo ymdopi a byw mewn caethiwed cwbl wahanol i'r hyn y dihangodd oddi wrtho. Elidir, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Caerdydd (Cyfres 1) (2006)
Cyfres am griw o ffrindiau yn eu hugeiniau sy'n byw mewn fflatiau crand ym Mae Caerdydd. Dilyna’r gyfres y criw - Peter, Emyr, Osian, Ceri, Lea & Elen – wrth eu gwaith (amrywiol) bob dydd a’u bywydau personol, cyffrous, gyda’r nos. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byw Celwydd
Cyfres sy'n portreadu gwrthdaro rhwng newyddiadurwyr, ymgynghorwyr a gwleidyddion sy'n aelodau o bleidiau dychmygol ym Mae Caerdydd. Yn dilyn etholiadau, clymblaid sydd mewn grym, rhwng tair plaid sef Y Ceidwadwyr Newydd, Y Cenedlaetholwyr a'r Democratiaid gyda'r Sosialwyr yn wrthblaid. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Branwen (1994)
Mae dau genedlaetholwr yn priodi - Branwen o Gymru a Kevin o Belfast - ond mae brawd Branwen, Mathonwy, yn filwr yn y fyddin Brydeinig. Mae'r gwrthdaro rhwng teyrngarwch gwleidyddol a theuluol yn tanio Branwen. Y Mabinogi yn dod i'r presennol ac yn bygwth y genhedlaeth newydd. Teliesyn, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Blodeuwedd (1990)
Ffilm o'r ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis, wedi'i selio ar chwedl y Mabinogi am y ferch a wnaethpwyd allan o flodau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ac Eto Nid Myfi (1987)
Drama lwyfan wedi'i haddasu ar gyfer y teledu gan John Gwilym Jones, awdur y ddrama wreiddiol. Llion Williams sy'n chwarae'r brif rhan. Ffilmiau Bryngwyn, 1987. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
A55 (Cyfres 2)
Cyfres ddrama yn dilyn hanes cwmni lorïau GMJ. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
A55 (Cyfres 3)
Cyfres ddrama yn dilyn hanes cwmni lorïau GMJ. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
#Fi: Jodie (2013)
Cyfres ddogfen i bobl ifanc. Mae bywyd Jodie Williams yn un prysur iawn. Nid yn unig mae hi'n ofalwr ifanc yn edrych ar ôl ei mam, ond mae hi hefyd yn gwneud tipyn o waith elusennol. Dilynwn Jodie ar adeg prysur yn ei bywyd wrth iddi drefnu digwyddiad elusennol yn yr ysgol a chael cyfle i fynd i premier ffilm go arbennig. Boom Cymru, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.