Ychwanegwyd: 09/10/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.6K

Addysgu Ar-lein gyda MS Teams (Gweithdy gan Dyddgu Hywel)

Disgrifiad

Bydd y gweithdy hwn o fudd i unrhyw un sydd am ddatblygu ac adeiladu ar ddulliau addysgu ar-lein, dysgu arloesol, cyflwyno ar-lein ac ymgysylltu gyda myfyrwyr.
    
Amcanion y gweithdy

  • Mabwysiadu sgiliau addysgu effeithiol ar-lein 
  • Cyflwyno yn effeithiol trwy Microsoft Teams
  • Arwain gweithgareddau gwaith grwp yn ystod seminarau ar-lein

Cynnwys y gweithdy (cyfres o 3 cyflwyniad fideo isod)

  • Cyflwyniad 1 - Cyfathrebu gyda myfyrwyr trwy Teams
  • Cyflwyniad 2 - Addysgu ar-lein trwy Teams
  • Cyflwyniad 3 - Grwpiau Trafod yn Teams

Ar ddiwedd y gweithdai hyn dylai hyfforddeion fod yn:

  • gyfforddus wrth addysgu ar-lein
  • hyderus wrth arwain gweithgareddau a thasgau ar-lein
  • gyfforddus wrth ddefnyddio’r holl offer o fewn rhaglen Teams

Cefndir y Cyflwynydd

Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu a myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
llun teitl addysgu ar-lein, title image online learning

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.