Mae'r adnodd hwn wedi'i adeiladu ar gyfres o weithdai newid ymddygiad. Mae'r adnodd yn recordiad o gyflwyniad sy'n cysyniadoli ymddygiad rhesymol ac afresymol, yn trafod ffactorau sydd yn effeithio ar ddewis cyfrwng addysg uwch ac yn amlinellu fframwaith newid ymddygiad (ac yn cynnwys enghraifft syml o sut i'w ddefnyddio).
Mae'r adnodd yn berthnasol i unrhywun o fewn y sector addysg uwch sydd am ddefnyddio mewnwelediadau neu ymagwedd ymddygiadol i newid ymddygiad. Mae ymagwedd o'r fath yn cydnabod pwysigrwydd fframio dewisiadau a natur afresymol ein ymddygiad, ac yn boblogaidd iawn ymysg llywodraethau a gwneuthurwyr polisi.
Dylid wylio'r cyflwyniad, ac mae modd defnyddio'r enghraifft fel ysbrydoliaeth i'ch defnydd chi o ymagwedd ymddygiadol neu defnydd o'r fframwaith.
Gweithdy Newid Ymddygiad
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.