Ar achlysur ei ddeuddegfed pen-blwydd a’i ganfed erthygl, olrheinir yn yr erthygl hon hanes Gwerddon fel e-gyfnodolyn academaidd ac fel datblygiad cyffrous yn natblygiad diweddar yr uwchefrydiau yn y Gymraeg. Er iddo ymddangos am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2007, taera’r awdur fod ei wreiddiau’n gorwedd yn ddwfn yn hanes defnydd y Gymraeg ledled y disgyblaethau academaidd yn ein sefydliadau Addysg Uwch yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn y Gwyddorau yn ogystal â’r Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Aled Gruffydd Jones, 'Gwerddon: gwyrddlasu anialdir? Rhai sylwadau ar hanes e-gyfnodolyn academaidd Cymraeg' (2019)
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.