Gan elwa ar haen hynod gyfoethog o archifau cenhadol Cymreig yn India'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chychwyn yr ugeinfed ganrif, mae'r erthygl yn tynnu sylw at y modd y daeth gofal am y cleifion yn rhan ganolog, ond problemus, o'r Genhadaeth Gristnogol. Tra rhoddodd eu fferyllfeydd, eu clinigau a'u hysbytai lwyfan ac amlygrwydd i'r broses efengylaidd, ar yr un pryd agorwyd ganddynt dyndra dyfnach mewn cyswllt, er enghraifft, â gwleidyddiaeth rhyw a thrawsblannu arferion meddygol Gorllewinol mewn cymdeithas drefedigaethol. Aled Gruffydd Jones, 'Iechyd ac iachawdwriaeth: meddygaeth, y corff a'r drefn foesol ym Mengâl drefedigaethol 1840-1935', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 8-28.
Aled Gruffydd Jones, 'Iechyd ac iachawdwriaeth: meddygaeth, y corff a'r drefn foesol ym Mengâl drefedigaethol 1840-1935' (2013)
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.