Mae'r fideos 'Antur Arlwyo' yn dangos profiad chwe pherson sy'n gweithio yn y sector arlwyo a lletygarwch.
Mae'r fideos yn canolbwyntio ar wahanol adrannau yng ngweithle’r diwydiant bwyd gan ddangos yr unigolion yn gweithio yn eu hadran arbenigol. Cawn glywed am ei angerdd at y proffesiwn a’r pleser maent yn cael allan o’r gwaith; mae pwyslais ar eu balchder o weithio yng Nghymru a gweithredu yn ddwyieithog.
Mae chwe fideo yn y gyfres:
- Alun Evans, Pizza Llan
- Bryn Williams, Bryn Williams at Porth Eirias
- Cadi Ellis: Siwgr a Sbeis
- Helen Hollans, Môn ar Lwy
- Liza , Halen Môn
- Megan: Ffika Coffee
Os ydych chi'n dilyn cyrsiau Arlwyo a Lletygarwch yna byddwch yn dysgu pam mor werthfawr ydi'r sgil o ddefnyddio'r Gymraeg yn y maes yma yng Nghymru.