Pwrpas y llyfryn yma yw rhannu arferion da o ran datblygu darpariaeth addysgol ac addysgu mewn iaith leiafrifiedig mewn prifysgolion. Mae’r arferion da sydd yn cael eu trafod yn y llyfryn hwn yn dod o grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda darlithwyr a myfyrwyr yn edrych ar eu profiadau o addysg gyfrwng Gymraeg a chyfrwng Wyddeleg mewn prifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae'r llyfryn yn trafod:
- arferion da o ran annog myfyrwyr i astudio mewn iaith leiafrifiedig
- datblygu darpariaeth mewn iaith leiafrifiedig
- addysgu mewn iaith leiafrifiedig
- cefnogi myfyrwyr mewn iaith leiafrifiedig
- asesiadau mewn iaith leiafrifiedig
- normaleiddio defnydd o’r iaith leiafrifiedig ymysg myfyrwyr.
Rydyn ni’n rhagweld bydd y llyfryn yma’n ddefnyddiol nid yn unig i ddarlithwyr a darparwyr addysg uwch yn y gwledydd yma, ond hefyd i ddarlithwyr, ddarparwyr addysg uwch a darparwyr mewn sectorau addysg eraill yn rhannau eraill o’r byd sy’n datblygu darpariaeth addysgol ac yn addysgu mewn iaith leiafrifiedig.