Yn yr adnodd hwn byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o fusnesau a’u marchnadoedd. Mae’r adnodd wedi ei rannu’n chwe uned:
- Archwilio Busnes
- Marchnata
- Cyllid Personol a Busnes
- Busnes Rhyngwladol
- Egwyddorion Rheolaeth
- Gwneud Penderfyniadau Busnes
Yma cewch wybodaeth ynglŷn â busnesau a chwmnïau yng Nghymru y gallwch ei defnyddio i ymchwilio ymhellach neu er mwyn cwblhau aseiniadau.
Byddwch hefyd yn dod ar draws ymarferion byr ac astudiaethau achos a fydd yn profi eich dealltwriaeth yn fras.
Mae'r adnodd hwn yn targedu dysgwyr sy'n astudio cyrsiau busnes ar lefel 3.