Dyma gasgliad o adnoddau ar gyfer disgyblion ac athrawon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf. Mae’r adnoddau, sy’n berthnasol i'r fanyleb yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth wrth i chi addasu i ffordd newydd o ddysgu ac addysgu mewn cyfnod di-gynsail ym myd addysg yng Nghymru. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd amrywiol megis clipiau fideo, deunyddiau hyrwyddo a dolenni i wefannau allanol.
Astudio'r Gymraeg Lefel A Iaith Gyntaf
Dogfennau a dolenni:
Ar-lên: Siwan
Dewch i adolygu'r ddrama Siwan sydd ar fanyleb Cymraeg Blwyddyn 12 yng nghwmni Dr Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor.
Ar-lên: Blasu Barddoniaeth
Sesiwn adolygu gan Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth, sy'n canolbwyntio ar sut i ddehongli barddoniaeth nad ydych wedi ei weld o'r blaen. Defnyddiol ar gyfer paratoi ar gyfer Uned 6 Blwyddyn 13.
Ar-len: Y Gŵr sydd ar y Gorwel
Dewch i adolygu cywydd Gerallt Lloyd Owen, 'Y Gŵr sydd ar y Gorwel' sydd ar fanyleb Cymraeg Blwyddyn 12 yng nghwmni'r Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe.
Ar-lên: Gwaith Argoed Llwyfain
Sesiwn adolygu sy'n cynnig cyfle i ddisgyblion edrych yn fanwl ar un o gerddi mwyaf diddorol a bywiog Taliesin, sef 'Gwaith Argoed Llwyfain' yng nghwmni Dr David Callander, Prifysgol Caerdydd.
Ar-lên: Yma y mae fy lle
Cywion gwyddau, creigiau a'r ymdeimlad o berthyn yn "Yma y mae fy lle" gan Gwyn Thomas - sesiwn adolygu gan Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd.
Ar-lên: Branwen
Branwen - 'Efnisien a Bendigeidfran': sesiwn adolygu yng nghwmni'r Athro Peredur Lynch, Prifysgol Bangor.
Ar-lên: Moelni
Sesiwn yng nghwmni'r Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth, sy'n edrych ar soned enwog T H Parry-Williams, Moelni, ac ar berthynas y bardd â'i gynefin.
Ar-lên: Y Tŵr
Dewch i adolygu'r ddrama Y Tŵr sydd ar fanyleb Cymraeg Blwyddyn 12 yng nghwmni Dr Hannah Sams, Prifysgol Abertawe.
Sesiwn adolygu: 'Beaufort, Blaenau Gwent, mewn gwyrdd'
Sesiwn adolygu'r gerdd 'Beaufort, Blaenau Gwent, mewn gwyrdd' yng nghwmni'r bardd Ifor ap Glyn.
*Recordiad o sesiwn wedi ei threfnu gan Grŵp Llandrillo Menai i'w myfyrwyr o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ar-lên 21-22: Gwerthfawrogi Rhyddiaith
Sesiwn adolygu gan Yr Athro Angharad Price, Prifysgol Bangor, sy'n canolbwyntio ar sut i ddadansoddi rhyddiaith nad ydych wedi ei weld o'r blaen ac yn trafod pwynt cyfeiriadau synoptig. Defnyddiol ar gyfer paratoi ar gyfer Uned 4 + Uned 6 Blwyddyn 13.
Ar-lên 21-22: Gweithdy Gramadeg
Gweithdy gloywi gramadeg gan Dr Alex Lovell, Prifysgol Abertawe sy'n egluro a chwblhau ymarferion iaith sydyn i arfogi dysgwyr i ateb cwestiynau Uned 3 UG (Defnyddio Iaith).
Ar-lên 21-22: Astudio Ffilm Hedd Wyn
Sesiwn adolygu ffilm Hedd Wyn yng nghwmni’r Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe ar gyfer paratoi i sefyll arholiad llafar Uned 1 UG. Mae’r sesiwn fer yn edrych ar gymeriad Hedd Wyn, yn dadansoddi un olygfa o ran technegau camera ac yn rhoi syniadau am arddull trafod ar lafar.
Ar-lên 21-22: Astudio Chwedl Branwen
Branwen: lladd duwiau i greu Cymru
Sesiwn adolygu gan Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor, sy'n canolbwyntio ar brif gymeriadau chwedl Branwen ar gyfer Uned 5 Blwyddyn 13.
Sut mae’r chwedl ‘fytholegol’ hon yn codi cwestiynau sy’n llwyr berthnasol heddiw? Craffwn ar y prif gymeriadau a’u gweithredoedd.
Ar-lên 21-22: Martha Jac a Sianco
Sesiwn adolygu gan Dr Bleddyn Owen Huws, Prifysgol Aberystwyth, ar nofel Caryl Lewis, Martha Jac a Sianco.
Dyma gyfle i adolygu a pharatoi at yr arholiad llafar ar Martha Jac a Sianco gyda thrafodaeth ar brif themâu a chymeriadau'r nofel.
Ar-lên 21-22: Sul y Mamau yn Greenham
Sesiwn adolygu ar gerdd Menna Elfyn, Sul y Mamau yn Greenham, gan Dr Rhiannon Marks, Prifysgol Caerdydd.
Cyfle i adolygu'r gerdd sy'n rhan o fanyleb UG Uned 3, ac i drafod sut y gall celfyddyd ledaenu neges o heddwch mewn cyfnod rhyfelgar.
Syniadau Gweithgareddau Cyfoethogi Cymraeg UG a Safon Uwch
Dogfen sy'n cynnig syniadau posib ar gyfer cyfoethogi profiadau myfyrwyr UG a Safon Uwch Cymraeg - Iaith Gyntaf ac Ail Iaith: Gweithdai, Sgyrsiau, Teithiau.
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.