Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2015 1K

Cynhadledd ‘Boddi mewn Celfyddyd’: Gwaddol ’65

Disgrifiad

Hanner can mlynedd ar ôl boddi Tryweryn, trefnwyd cynhadledd i gasglu ynghyd a gwerthfawrogi’r gwaddol celfyddydol a ysbrydolwyd gan foddi’r cwm mewn cynhadledd deuddydd mewn lleoliad arbennig nid nepell o Dryweryn.

Yn ystod y gynhadledd, traddodwyd darlithoedd gan Dafydd Iwan a Manon Eames, a chafwyd arddangosfa aml-gyfrwng unigryw yn dogfennu hanes y boddi, a’r cynnyrch celfyddydol a grëwyd yn ei sgil.  Cafwyd hefyd gyfle i ymweld â Thryweryn a chlywed am brofiadau ac atgofion Aeron Prysor Jones am foddi’r cwm, yn ogystal â mwynhau detholiad o’r ddrama Porth y Byddar gan Manon Eames, o dan gyfarwyddyd Siwan Llynor.

Noddwyd y gynhadledd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Cymraeg, Cerddoriaeth
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Cynhadledd
man lun boddi mewn celfyddyd

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.