Ychwanegwyd: 22/10/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1K Cymraeg Yn Unig

Carwyn Jones, Meilyr Jones, Daisie Mayes, 'Adnabod y peryglon – dadansoddiad cychwynnol o gamblo ymysg myfyrwyr chwaraeon' (2021)

Disgrifiad

Bwriad yr ymchwil hwn oedd ceisio dod i ddeall natur y perygl sy’n gysylltiedig ag arferion gamblo myfyrwyr sy’n cystadlu mewn chwaraeon. Mae’r myfyrwyr hyn, fel pawb arall, yn agored i’r peryglon amlwg sy’n gysylltiedig â gamblo, ond hefyd yn gorfod dilyn rheolau uniondeb gamblo (gambling integrity rules) sy’n cyfyngu ar eu hymddygiad gamblo. Drwy ddefnyddio grwpiau ffocws gyda myfyrwyr chwaraeon – aelodau o dimau rygbi a phêl-droed (bechgyn a merched) – darganfuwyd bod gamblo yn arfer cyffredin. Yn bwysicach na hynny, darganfuwyd bod diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ynglŷn â natur a symptomau dibyniaeth a’r broses o golli rheolaeth. Yn ogystal, gwelwyd nad oedd myfyrwyr yn cymryd y rheolau gamblo o ddifri a bod rhai yn torri’r rheolau. 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Gwyddorau Chwaraeon
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun Gwerddon 33

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.