Nod ‘Celf a Dylunio ar y Map’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg ddod at ei gilydd mewn un lle i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa o brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant.
Mae'r myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn archwilio lleoliad penodol ac ymateb yn greadigol i'r lleoliad hwnnw ac i friff. Y lleoliad eleni oedd Abertawe a thema’r ŵyl oedd ‘Yr Hyll a’r Hyfryd’.
Gwahoddwyd tri ymarferydd Celf i’r ŵyl eleni i rannu eu taith gelfyddydol, sef Kath Ashill, Rhian Jones a Vivien Roule.
Mae’r fideos a ddarperir yma yn rhoi blas o’r ŵyl yn ogystal â rhoi cipolwg ar fenter ymarferwyr celfyddydol a’u teithiau yn y byd celf.