Mae’r adnodd hwn wedi’i anelu at y sawl sy’n newydd i astudiaethau ôl-raddedig ac mae’n canolbwyntio ar ddysgu gweithredol, cyfeirnodi a datblygu sgiliau ymchwilio, meddwl, darllen ac ysgrifennu beirniadol. Mae'n cynnwys cyfres o weithdai byrion (15 munud o hyd) yn cylchdroi o amgylch ‘Cwblhau traethodau hir yn effeithiol’
Chwe Cham i Ddoethuriaeth Lwyddiannus gan Dr Leila Griffiths
Dogfennau a dolenni:
Llwyddo gyda'ch astudiaethau ôl-raddedig
Mae’r gweithdy hwn wedi’i anelu at y sawl sy’n newydd i astudiaethau ôl-raddedig a chanolbwyntia ar ddysgu gweithredol, cyfeirnodi a datblygu sgiliau ymchwilio, meddwl, darllen ac ysgrifennu beirniadol.
Diffinio eich pwnc
A yw bwriad eich ymchwil yn gyraeddadwy, a beth yw’r rhesymau dros ddilyn y trywydd hwnnw? Dyma ddau gwestiwn sy’n cael eu hystyried yn y gweithdy hwn wrth i ni weithio drwy’r broses o gynhyrchu cwestiwn ymchwil yn seiliedig ar eich pwnc dewisol chi.
Cynllunio eich ymchwil
Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar y syniad o 'archwiliad ymchwil' fel modd o nodi’r camau y bydd angen i chi eu cymryd i reoli eich prosiect ymchwil er mwyn ei gwblhau yn llwyddiannus.
Adolygu'r llenyddiaeth
Yn y gweithdy hwn, rydym yn edrych ar bwrpas adolygiadau o lenyddiaeth gan ystyried hefyd sut mae’r adolygiad wedi ei leoli o fewn eich ymchwil. Rydym hefyd yn ystyried sut i lunio safbwynt awdurdodol tuag at y llenyddiaeth a sut i drefnu eich adolygiad yn y modd mwyaf effeithiol.
Ysgrifennu crynodebau
Beth sy’n gwneud crynodeb da? Mae’r gweithdy yn bwriadu ateb y cwestiwn hwn drwy gymharu crynodebau o ystod o wahanol ddisgyblaethau gan ddod i gasgliadau ynghylch rhai o’r nodweddion craidd.
Ysgrifennu Rhagarweiniadau
Mae'r gweithdy hwn yn edrych ar swyddogaeth rhagarweiniad ysgrifenedig a’r hyn a wna awduron wrth gyflwyno’u gwaith i ddarllenwyr.
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.