Ychwanegwyd: 15/03/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 3.1K Cymraeg Yn Unig

Cynhadledd Ymchwil Ar-lein 2021

Disgrifiad

Cynhadledd a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddwyd gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i gwrdd ag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.
 
Bwriad y gynhadledd oedd rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Roedd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.

Cliciwch isod i weld recordiad o'r gynhadledd sy'n cynnwys sesiynau cwestiynau ac ateb ar y cyflwyniadau. Mae hefyd dolenni i weld y posteri ymchwil a gyflwynwyd.

 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Trawsddisgyblaethol, Rhaglen Sgiliau Ymchwil, Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Cynhadledd
mân-lun cynhadledd ymchwil

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.