Mae'r adnodd hwn yn edrych ar gynhyrchu cnydau yng Nghymru. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr mewn addysg bellach ac uwch sy’n astudio rhaglenni o lefelau 2 i 6. Mae yna wyth uned, pob un yn cynnwys gwybodaeth am wahanol agweddau ar gynhyrchu cnydau. Mae'r rhain yn cynnwys agweddau ar drin, sefydlu, tyfu, gwrteithio, gwarchod, cynaeafu a storio cnydau. Mae'r adnodd yn cynnwys yr unedau canlynol:
- Cyflwyniad i gynhyrchu cnydau yng Nghymru
- Trin y tir
- Sefydlu cnwd
- Tyfiant a datblygiad cnydau
- Teilo cnwd
- Diogelu cnydau
- Cynaefu cnwd
- Storio cnydau
Mae'r adnodd hwn wedi'i lwyfannu a'i gyhoeddi ar wefan HWB Llywodraeth Cymru.