Mewn ateb i alwad gan yr Arts and Humanities Research Council, a chyda chymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwnaethpwyd ffilm ddogfen farddonol/arbrofol fer yn 2016 gan Anne Marie Carty, Nick Jones a Dafydd Sills-Jones ar destun Cors Fochno, ger Y Borth. Mae Cors Fochno yn un o brif gorsydd mawn gorllewin Ewrop, ac yn gartref pwysig i fyd natur unigryw, ynghyd ag i astudiaethau gwyddonol pwysig, gan gynnwys astudiaethau hinsawdd. Mae'r gors felly'n drosiad ffilmig defnyddiol er mwyn trafod man cyfarfod nifer o bynciau a phersbectifau, gan gynnwys teimladau'r gymuned leol tuag at wylltir, cynaliadwraeth ffermio lleol, ac yn fwy eang hanes a dyfodol y berthynas rhwng dyn a'i amgylchedd. Mae'r erthygl hon yn olrhain y dynesiadau a'r cysyniadau y tu ôl i'r ffilm, gan roi'r ffilm yn nhraddodiad ymchwil-fel-ymarfer.
Dafydd Sills-Jones ac Anne Marie Carty, 'Y Gors: archwilio'r ffin rhwng awduraeth a chyfranogiad yn y ffilm ddogfen' (2018)
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.