Mae’r gyfres hon yn esbonio sut mae defnyddio meddalwedd Panopto, gan gynnwys sut i fynd ati i recordio, sut i olygu, sut i rannu’r clipiau fideo ag eraill a sut i ddefnyddio Panopto ar gyfer asesu.
Mae'r adnodd yn cynnwys:
- Cyflwyniad - Cyflwyniad byr ar ffurf fideo yn esbonio beth yw’r meddalwedd recordio Panopto ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio.
- Cychwyn arni: Lawrlwytho’r recordydd Panopto -Sut i lawrlwytho’r recordydd Panopto ar gyfer Windows
- Paratoi eich safle Blackboard - Sut i baratoi eich safle Blackboard ar gyfer defnyddio Panopto (cwrs gwreiddiol a chwrs ultra)
- Creu eich recordiad cyntaf - Sut i fynd ati i recordio
- Golygu syml - Sut i fynd ati i olygu dechrau a diwedd recordiad a thynnu rhan o ganol recordiad
- Copïo recordiad o un ffolder i un arall - Sut i gopïo recordiad o un ffolder Panopto i un arall
- Symud recordiad o un ffolder i un arall - Sut i symud recordiad o un ffolder Panopto i un arall
- Is-deitlau - Sut i olygu neu ddileu’r is-deitlau
- Gosod y recordiad o fewn strwythur modiwl - Sut i osod dolen i recordiad Panopto o fewn Blackboard (safle yn y wedd wreiddiol)
- Gosod y recordiad o fewn strwythur modiwl - Sut i osod dolen i recordiad Panopto o fewn Blackboard (safle Ultra)
- Panopto ar gyfer asesu: Creu ffolder aseiniadau - Sut i greu ffolder aseiniadau o fewn eich safle Blackboard i alluogi myfyrwyr gyflwyno gwaith ar ffurf fideo
- Uwchlwytho fideo i'r ffolder aseiniadau - Fideo i fyfyrwyr ar sut i uwchlwytho ffeil i’r ffolder aseiniadau
- Gosod cwis o fewn recordiad - Creu a gosod cwisiau o fewn recordiad - Dogfen Sway
- Rhannu recordiad gydag eraill - Sut i rannu fideo ag eraill a hawliau gwylio
Cyflwynydd: Bethan Wyn Jones
Mae Bethan Wyn Jones yn Uwch Dechnolegydd Dysgu ym Mhrifysgol Bangor ac hefyd ar secondiad rhan-amser gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel technolegydd e-ddysgu. Mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes e-ddysgu ac yn benodol ar y defnydd o dechnoleg dysgu fel cyfrwng i hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn Addysg Uwch.