E-werslyfr am gynllunio a gwneud ymchwil meintiol yw hwn. Mae'n gyflwyniad cyflawn a manwl i'r broses o gynllunio ymchwil, casglu data a dadansoddi ystadegau.
Wedi'i anelu'n bennaf at israddedigion sy'n astudio Seicoleg, mae'r e-werslyfr yn mynd law yn llaw â modiwlau dulliau ymchwil a'r traethawd hir. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i israddedigion ac ôlraddedigion sy'n astudio dulliau ymchwil ac yn cynnal ymchwil meintiol mewn ystod eang o bynciau eraill.
Yr awduron yw Dr Awel Vaughan-Evans, Dr Gwennant Evans-Jones ac Emma Hughes-Parry.
Ymysg y pynciau a drafodir mae:
- Moeseg
- Cynllunio ymchwil meintiol
- Samplu, dilysrwydd a dibynadwyedd
- Cyflwyniad i ystadegau
- Dosraniadau a thebygolrwydd
- Ystadegau casgliadol
- Cydberthyniad
- Atchweliad llinol
- Y prawf t
- Dadansoddi atchweliad
- SPSS
- Dadansoddi cyfrannau a'r prawf chi sgwar
- Profion amharametrig amgen