Ychwanegwyd: 11/12/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.5K

Gwerddon - cyfrannu erthygl

Disgrifiad

Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg.

Cyhoeddir Gwerddon ar y we o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod eang o feysydd a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg.

A oes gennych ddiddordeb cyfrannu erthygl i Gwerddon

Dylid dilyn canllawiau golygyddol Gwerddon (gweler isod) a gwneir penderfyniad golygyddol p’un ai derbynnir erthygl i'w chyhoeddi ai peidio yn dilyn proses arfarnu annibynnol.

Mae'r canllawiau golygyddol yn cynnwys canllawiau ar sut i baratoi erthygl i'w chyhoeddi yn Gwerddon. Rhaid rhoi sylw hefyd i'r Canllaw Iaith (gweler isod) cyn cyflwyno erthygl.

Mae Gwerddon yn croesawu allbynnau sydd ar ffurf ymarfer fel ymchwil. Gwahoddir awduron i gyflwyno’r allbwn ar ffurf ffeil gyfrifiadurol gyda dogfen ysgrifenedig atodol o hyd at 4,000 o eiriau yn rhoi sylw i’r elfennau canlynol: cyd-destun, cwestiynau ymchwil a methodoleg. Gellir cyflwyno llyfryddiaeth ddethol os yn berthnasol.

Dylid anfon erthyglau at gwybodaeth@gwerddon.cymru

Gwefan Gwerddon: http://gwerddon.cymru

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Sgiliau Ymchwil, Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
Gwerddon - cyfrannu erthygl

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.