Ychwanegwyd: 23/08/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 632 Cymraeg Yn Unig

Gwerslyfr Adeiladwaith Lefel 2

Disgrifiad

Gweler ddolen at wefan Gwales.com isod er mwyn prynu gwerslyfr neu e-lyfr Sylfaen Mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu - Craidd gan Mike Jones (Cymraeg).

 

Bydd y gwerslyfr hwn yn cwmpasu'r holl gynnwys ar gyfer chwe uned graidd y cymhwyster Sylfaen ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiad MCQ wedi'i farcio'n allanol, ynghyd â'r Prawf Iechyd a Diogelwch wedi'i farcio'n fewnol.

Mae’r gwerslyfr yn cefnogi dysgwyr sy’n astudio’r unedau craidd yn y cymhwyster Lefel 2 hwn (Cymwysterau Cymru). Mae’n rhoi cyflwyniad eang i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig ac yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o’r diwydiant adeiladu dros chwe phennod. Mae pennod allweddol yn cynnwys egwyddorion pwysig sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gweithle a chyfrifoldebau lles yr holl weithwyr ar safle.
Mae’r pynciau a gwmpesir gan yr unedau craidd yn darparu gwybodaeth sylfaenol hanfodol sy’n ffurfio sylfaen y gellir adeiladu arni wrth astudio arbenigeddau crefft dethol yn raddol i gwblhau’r cwrs. Ymhlith y pynciau a ystyriwyd mae:
• yr adeiladau a’r strwythurau sy’n ffurfio’r amgylchedd adeiledig a sut mae newidiadau’n digwydd dros amser
• y crefftau, rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu ac amgylchedd adeiledig
• sgiliau cyflogadwyedd sy’n berthnasol i sefyllfaoedd yn y gweithle
• sut mae adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol
• defnyddio a chymhwyso technolegau sy’n dod i’r amlwg.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Adeiladwaith
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
E-lyfr
mân-lun llyfr adeiladwaith

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.