MAP - Myfyrwyr, Arloesi, Perfformio
Gŵyl rithiol i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg. Nod ‘Gŵyl Celf a Dylunio ar y MAP’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg i ddod ynghyd mewn un man i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa ar brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant. Eleni am y tro cyntaf cynhaliwyd Gŵyl Celf a Dylunio ar y Map mewn tair sesiwn ar-lein yn ystod mis Mawrth.
- Wythnos 1: Cyflwyniadau a theithiau rhithiol o gwmpas Amgueddfeydd Cymru.
- Wythnos 2: Cyflwyniadau gan yr artistiaid Cefyn Burgess a Valériane Leblond
- Wythnos 3: Cyflwyniadau gan Gareth TW Rees ac Eddie Ladd
Roedd cyfle i fynychwyr ymateb i'r cyflwyniadau amrywiol drwy ddilyn briff wythnosol a rhannu eu gwaith ar Instagram gan ddefnyddio'r hashnodau canlynol:
Wythnos 1: #datblyguMAP21 #cadMAP21
Wythnos 2: #datganMAP21 #cadMAP21
Wythnos 3: #creuMAP21 #cadMAP21
Cliciwch isod i weld recordiadau o'r sesiynau arbennig.